Bwletin Band Eang Rhifyn 9 - Gorffennaf 2006
Llwythwch I Lawr Y Fersiwn PDF
(336kb)
Neidio I:
Nododd adroddiad gan Epitiro maiAOL, BT, Demon, Orange a
Virgin oedd yn rhoi'r pum gwasanaeth band eang gorau i ddefnyddwyr
y DU yn ail chwarter 2006.
Dywedodd Gavin Johns, Rheolwr Gyfarwyddwr Epitiro, "Yn ôl ein
profion ADSL ymhlith cwsmeriaid, o ran perfformiad Rhyngrwyd, BT
oedd ar frig y rhestr rhwng Ebrill a Mehefin 2006. BT hefyd oedd yn
rhoi'r gwasanaeth cyflymaf fel canran o'i uchafswm
theoretig."
"Virgin, BT ac AOL oedd y gwasanaethau cyflymaf i gysylltu â'r
Rhyngrwyd, ac o ran anfon e-bost roedd Pipex, Orange a BT hyd at
bedair gwaith yn gynt na chyfartaledd y diwydiant."
Ystadegau cysylltu â'r Rhyngrwyd
Yn ôl adroddiad diweddaraf yr Ystadegau Gwladol ar gyrchu'r
Rhyngrwyd, a gyhoeddwyd ar 31 Mai 2006, mae 63 y cant o oedolion y
DU yn cysylltu â'r Rhyngrwyd.
Y lle mwyaf cyffredin i gyrchu'r Rhyngrwyd oedd gartref (86 y
cant), roedd 46 y cant yn ei gyrchu yn y gwaith, 28 y cant yng
nghartref rhywun arall, 16 y cant mewn lle addysg a 10 y cant mewn
llyfrgell gyhoeddus.
Datganiadau ystadegol y dyfodol:
23 Awst 2006 – Adroddiad chwarterol ar
Gysylltedd y Rhyngrwyd
23 Awst 2006 – Unigolion ac Aelwydydd yn
Cysylltu â'r Rhyngrwyd – Ebrill 2006
(y cyntaf mewn cyfres o gyhoeddiadau blynyddol yn lle'r adroddiadau
achlysurol ar Gysylltu â'r Rhyngrwyd).
Cyhoeddiadau Newydd yr Arsyllfa
Mae Adroddiadau Gwlad sy'n rhoi trosolwg y farchnad o
wasanaethau data a thelathrebu ar gael nawr ar gyfer:
Cronfa Ddata o Fentrau Band Eang
Bellach mae gan wefan yr Arsyllfa gronfa ddata o Fentrau neu
Brosiectau Band Eang ar gyfer Cymru a Gweddill y Byd. Cyflwynwyd
rhyw 20 prosiect o Gymru hyd yma a byddem yn croesawu llawer mwy o
brosiectau o Gymru a mannau eraill. Mae'r gronfa ddata yn offeryn
pwerus i chwilio cofnodion y prosiect, yn ogystal ag opsiwn
"Cyflwyno Prosiect".
Beth fu manteision band eang i chi?
Yn ystod ail hanner 2006 bydd Arsyllfa Band Eang Cymru yn
ysgrifennu Astudiaethau Achos ar sefydliadau a phobl sydd wedi elwa
ar ddefnyddio band eang.
Os ydych chi fel unigolyn neu fel rhan o sefydliad wedi bod ar
eich ennill yn bendant o ddefnyddio Band Eang, ac yr hoffech fod yn
destun Astudiaeth Achos a gyhoeddir ar Wefan yr Arsyllfa, yna
anfonwch neges e-bost at Dr James B. Waddell, Rheolwr Prosiect yn
ABEC yn waddelljb@ecommerce.ac.uk gan esbonio eich stori yn
fras.
Yn ystod 2009, caiff signal teledu analog Cymru ei
ddiffodd. Bydd gan lawer o setiau teledu newydd diwniwr
digidol, ac yn dal i weithio yr un fath ag arfer.
Fydd setiau hŷn ddim yn parhau i weithio drwy erial teledu
confensiynol a bydd angen eu plygio i mewn i wasanaeth teledu
digidol.
Mae teledu digidol ar gael ar sawl ffurf:
Drwy'ch erial - Freeview
Gall setiau teledu newydd godi teledu digidol drwy'ch
erial. Mae angen set pen bocs ar setiau eraill.
Lloeren
Gall dysgl loeren ar eich eiddo a bocs datgodio lloeren ar ben
y set ganiatáu ichi dderbyn gwasanaethau lloeren am ddim neu am
danysgrifiad.
Cebl
Mae'r mwyafrif o wasanaethau cebl yn ddigidol yn barod.
Fydd diffodd y signal analog ddim yn effeithio ar y lleill (fel
Wrights Radio Relay yn y Drenewydd).
Drwy'ch llinell ffôn
Gall teledu digidol gael ei ddarparu dros linell ffôn
gonfensiynol. Y dull arferol yw sefydlu cysylltiad band eang
ADSL. Yna mae bocs pen set yn cael ei blygio i mewn i'r llwybrydd
ADSL. Yna mae'r bocs pen set yn dod â sianeli digidol i'r
teledu.
Ar hyn o bryd, mae'r gwasanaeth yma ar gael yn Llundain a'r
cyffiniau, drwy gwmni o'r enw Homechoice
(www.homechoice.co.uk). Nid yw'n hysbys eto a fydd Homechoice
yn ymestyn ei wasanaeth i Gymru yn y dyfodol.
Y term ar gyfer derbyn band eang dros y Rhyngrwyd yw IPTV. Yn
syml, IP (Protocol Rhyngrwyd) yw'r term ar gyfer y ffordd y bydd
cyfrifiaduron yn cyfathrebu dros y Rhyngrwyd.
Mae'n debyg y bydd y cystadlu yn y diwydiant band eang yn
ymestyn i'r sector teledu yn fuan iawn. Drwy lansio Sky
Broadband yn ddiweddar, mae'r darparwr lloeren yn cystadlu'n
uniongyrchol â BT.
Mae uniad diweddar NTL â Telewest yn golygu bod ganddyn nhw
gynifer o gwsmeriaid manwerthu â BT. Mae'r uniad â Virgin Mobile
sydd wedi'i gyhoeddi yn caniatáu iddyn nhw fanteisio ar un o
frandiau cryfaf y byd. Mae'n debyg y bydd BT yn taro'n ôl yn
erbyn NTL a Sky drwy lansio gwasanaeth teledu IPTV o'r enw BT
Vision yn nes ymlaen yn 2006 (www.btvision.bt.com).
Er hynny, nid yw'n hysbys eto a fydd hyn yn rhoi gwasanaeth
IPTV cyflawn (yn debyg i Homechoice) neu wasanaeth tebycach i
lawrlwytho. Ar hyn o bryd mae gwefan BT Vision yn disgrifio'r
gwasanaeth fel:
- Cyfle i gael dros 30 o sianeli Freeview drwy erial eich teledu
(os oes signal ar gael)
- Adloniant ar alw. Llyfrgell anferth o ffilmiau, comedi,
cerddoriaeth a rhaglenni plant ichi eu harchebu i'w gwylio ond ichi
bwyso botwm.
- Dal i fyny â rhaglenni teledu. Gallwch weld detholiad o
raglenni'r wythnos diwethaf os ydych wedi'u colli
- Recordydd Fideo Digidol. Storio hyd at 80 awr o raglenni
– heb dapiau, amserydd na disgiau
- Gwasanaethau cyfathrebu. Yn y dyfodol byddwch yn gallu
negeseua, sgwrsio a defnyddio teleffoni fideo drwy'r teledu.
Byddwch yn gallu rheoli gwasanaeth BT Vision drwy'r Rhyngrwyd pryd
bynnag y byddwch ar-lein
Cynhadledd i'r Gweinidogion yn Riga ar TGCh ar gyfer Cymdeithas
Gynhwysol
Riga, Latfia
10-13 Mehefin 2006
Cafodd cynhadledd TGCh ar gyfer Cymdeithas Gynhwysol ei
threfnu gan y Comisiwn Ewropeaidd a llywodraeth Latfia, gan anelu
at godi ymwybyddiaeth o e-Gynhwysiant a dechrau paratoi i lansio
Menter e-Gynhwysiant Ewropeaidd erbyn 2008, a fydd yn rhan o fenter
ehangach i2010 Ewrop.
Roedd y gynhadledd yn cynnwys cyfarfod anffurfiol i'r
Gweinidogion, lle mabwysiadodd Gweinidogion o Aelod-wladwriaethau'r
Undeb Ewropeaidd (UE), gwledydd sydd newydd eu derbyn a
darpar aelodau, gwledydd Ardal Masnach Rydd Ewrop (EFTA) a gwledydd
eraill Ddatganiad ar e-Gynhwysiant a fydd yn cynnig canllaw
gwleidyddol ar gyfer camau yn y dyfodol. Mae copi o'r
datganiad ar gael yn
http://europa.eu.int/gwybodaeth_society/events/ict_riga_2006/doc/declaration_riga.pdf
Cynrychiolydd y DU oedd Margaret Hodge a oedd newydd ei
phenodi'n Weinidog dros Ddiwydiant a'r Rhanbarthau yn y DTI.
Cyfeiriodd yn ei haraith at e-hygyrchedd fel rhagflaenydd i
e-Gynhywysiant a sôn y dylid edrych arno fel "cyfle" nid
"bygythiad"; ei fod yn bwysig am resymau cymdeithasol ac economaidd
ac os na fydd yr aelod-wladwriaethau'n gweithredu, mai dim ond
ehangu a wnaiff y "rhaniad digidol". Dyma'i phrif
negeseuon:
- Dylai cyflenwyr hoelio sylw ar ba gynhyrchion a gwasanaethau y
mae ar ddinasyddion eu heisiau a'u hangen;
- Yr hyn y gall technoleg ei wneud a ddylai arwain yr
agenda;
- Dylai cydberthynas â chyflenwyr sydd o les i'r ddwy ochr gael
ei ffurfio;
- Dim ond hyn a hyn a all gael ei wneud gan yr
aelod-wladwriaethau ac felly dylid ceisio cydweithredu ar draws
ffiniau.
Cyfeiriodd at y siarter ar e-Gynhwysiant oedd newydd ei
chyhoeddi gan y DU http://www.ictrnid.org.uk/adi/charter.html a'r
ffaith bod y DU yn chwilio am gwmnïau i lofnodi'r siarter.
Roedd y gynhadledd yn cynnwys arddangosfa fach a chyfres o
gyfarfodydd llawn dros ddau ddiwrnod a hanner.
Cynrychiolaeth Rhaglen Band Eang Cymru
Dirprwyaeth Band Eang Cymru oedd yr unig gorff o lywodraeth
ranbarthol yn yr arddangosfa ac roedd cryn ddiddordeb o bob rhan o
Ewrop. Roedd y diddordeb yn ymwneud yn bennaf â'r
canlynol:
- Roedd gan aelodau newydd yr UE ddiddordeb mawr i wybod sut
cawson ni afael ar gronfeydd strwythurol a ffrydiau ariannol eraill
er mwyn rheoli'n prosiectau yn llwyddiannus.
- Roedd gan y rhai lle roedd y seilwaith ar gael (fel Sweden a
Melita) ddiddordeb mawr yn sut roedd Band Eang Cymru wedi ymwneud
â'r cyhoedd.
Llwyddodd George Walker a Sarah Lilley o e-Gymru i roi
crynodeb o raglen Band Eang Cymru a hynny o safbwynt y polisi a'r
prosiect.
Dyddiadau galluogi cyfnewidfeydd ar gyfer
ADSL
Enw'r
Gyfnewidfa
|
Awdurdod
Leol
|
Dyddiad Parod am
Wasanaeth
|
Dyddiad galluogi
gwirioneddol
|
|
Gwynfe
|
Sir Gaerfyrddin
|
30 Mehefin 06
|
30 Mehefin 06
|
|
Llangurig
|
Powys
|
30 Mehefin 06
|
30 Mehefin 06
|
|
Llanarmon
|
Wrecsam
|
30 Mehefin 06
|
30 Mehefin 06
|
|
Trewyddel
|
Sir Benfro
|
30 Mehefin 06
|
30 Mehefin 06
|
|
Llanwddyn
|
Powys
|
07 Gorffennaf 06
|
07 Gorffennaf 06
|
|
Pen-maen
|
Abertawe
|
07 Gorffennaf 06
|
07 Gorffennaf 06
|
|
Cynghordy
|
Sir Gaerfyrddin
|
14 Gorffennaf 06
|
14 Gorffennaf 06
|
|
Merthyr Cynog
|
Powys
|
21 Gorffennaf 06
|
14 Gorffennaf 06
|
|
Pant-y-dŵr
|
Powys
|
21 Gorffennaf 06
|
21 Gorffennaf 06
|
|
Rhandir-mwyn
|
Sir Gaerfyrddin
|
22 Gorffennaf 06
|
21 Gorffennaf 06
|
|
Angle
|
Sir Benfro
|
22 Gorffennaf 06
|
21 Gorffennaf 06
|
|
Capel Curig
|
Conwy
|
28 Gorffennaf 06
|
24 Gorffennaf 06
|
|
Castell Caereinion
|
Powys
|
28 Gorffennaf 06
|
28 Gorffennaf 06
|
|
Llanfair Llythynwg
|
Powys
|
28 Gorffennaf 06
|
24 Gorffennaf 06
|
|
Abergynolwyn
|
Gwynedd
|
28 Gorffennaf 06
|
28 Gorffennaf 06
|
|
Llanddewi yn Hwytyn
|
Powys
|
28 Gorffennaf 06
|
14 Gorffennaf 06
|
|
Ynysgynwraidd
|
Sir Fynwy
|
28 Gorffennaf 06
|
28 Gorffennaf 06
|
|
Tremarchog
|
Sir Benfro
|
28 Gorffennaf 06
|
28 Gorffennaf 06
|
|
Llangynllo
|
Powys
|
05 Awst 06
|
04 Awst 06
|
|
Bryneglwys
|
Sir Ddinbych
|
05 Awst 06
|
28 Gorffennaf 06
|
|
Cyffylliog
|
Sir Ddinbych
|
05 Awst 06
|
28 Gorffennaf 06
|
|
Llandeilo
|
Sir Fynwy
|
05 Awst 06
|
28 Gorffennaf 06
|
|
Pennal
|
Gwynedd
|
11 Awst 06
|
|
|
Rhyd-y-main
|
Gwynedd
|
11 Awst 06
|
|
|
Ganllwyd
|
Gwynedd
|
11 Awst 06
|
|
|
Glandyfi
|
Ceredigion
|
19 Awst 06
|
|
|
Bugeildy
|
Powys
|
25 Awst 06
|
28 Gorffennaf 06
|
|
Llanefydd
|
Conwy
|
01 Medi 06
|
|
|
Y Bont-ddu
|
Gwynedd
|
02 Medi 06
|
|
|
Hundred House
|
Powys
|
08 Medi 06
|
|
|
Llanbedr Castell-paen
|
Powys
|
22 Medi 06
|
|
|
Cross Ash
|
Sir Fynwy
|
22 Medi 06
|
|
|
Rhiw
|
Gwynedd
|
22 Medi 06
|
|
|
Llanhuadain
|
Sir Benfro
|
I'w gadarnhau
|
|
|
Rhos
|
Sir Benfro
|
I'w gadarnhau
|
|
|
|
|
|
Band eang ar gael yn gynt na'r amserlen
|
|
|
Band eang ar gael
|
Rhaglen alluogi RIBS yn gyflymach na'r
disgwyl
Mae rhaglen RIBS i alluogi cyfnewidfeydd ar gyfer band eang yn
cyd-fynd â'r amserlen, ac yn achos 8 o'r cyfnewidfeydd (dros 20%)
mae'n well na'r amserlen.
ADSL Max o gyfnewidfeydd RIBS
Bydd pob cyfnewidfa a gaiff ei galluogi gan brosiect RIBS yn
gallu cyflwyno gwasanaethau ADSL Max a chael eu cynnwys mewn unrhyw
raglenni uwchraddio cenedlaethol yn y dyfodol fel ADSL 2.
"Methu cael Band Eang o hyd?"
Os ydych chi'n gwybod yn barod eich bod mewn man drwg, gallwch
ein helpu drwy gofrestru'ch manylion ar ein gwefan, sef
Yn ogystal, efallai yr hoffech ofyn i'ch cymdogion weld a ydyn
nhw'n wynebu'r un trafferthion mewn man drwg, a gallwch ofyn iddyn
nhw gofrestru eu manylion ar y wefan broceriaeth – gorau po fwyaf o
gofrestriadau a gesglir mewn un ardal, o ran yr achos busnes a'r
cyfiawnhad dros wneud y gwaith.
Crynodeb Rheoleiddio

Lansio Gwefan sy'n Cymharu Gwasanaethau Llinellau Gosod
Mae Ofcom wedi lansio gwefan a gynlluniwyd i ganiatáu i
ddefnyddwyr ffonau busnes a phreswyl gymharu perfformiad darparwyr
telathrebu llinellau gosod yn y DU.
Mae hyn yn cynnwys pob darparwr mawr fel BT, Bulldog ac NTL.
Ar ddiwedd 2006 bydd Ofcom yn adolygu cynllun TopComm ac fe allai
ystyried ei ehangu er mwyn cynnwys rhagor o ddarparwyr a rhagor o
wasanaethau fel band eang.
www.topcomm.org.uk/
Darlledu Gwasanaeth Cyhoeddus Digidol
Mae Ofcom wedi cyhoeddi eu bod am adolygu'r newidiadau mewn
darlledu gwasanaeth cyhoeddus y bydd eu hangen ar ôl newid i deledu
digidol ar draws y DU.
Yn eu hadolygiad statudol, gofynnodd Ofcom a oedd achos dros
arloesi sefydliadol mewn darlledu gwasanaeth cyhoeddus y tu allan
i'r BBC a Channel 4, gan ganolbwyntio ar y cyfryngau newydd. Bydd
Ofcom yn datblygu cynigion manylach ar gylch gwaith creadigol y
Cyhoeddwr Gwasanaeth Cyhoeddus a sut y byddai'n gweithio yn
ymarferol.
Ofcom yn dileu rheolau ar brisiau manwerthol ar rent llinellau
a galwadau BT
22 flynedd ar ôl i reolau ar brisiau manwerthol gael eu gosod
gyntaf, i gyfyngu ar godiadau ym mhris rhent llinellau a galwadau i
gwsmeriaid BT, cyhoeddodd Ofcom eu bod yn cael eu dileu.
Ymgynghoriadau'r UE
Galw am gyfraniadau at y Papur Gwyn ar
Bolisi Cyfathrebu Ewropeaidd
Mae'r Comisiwn Ewropeaidd (EC) wedi galw am gyfraniadau at y
Papur Gwyn ar Bolisi Cyfathrebu Ewropeaidd. Mae'r ymgynghoriad yn
galw am sylwadau am bum maes y mae'r Papur Gwyn yn cynnig
cydweithredu arnynt:
- diffinio'r egwyddorion cyffredin sy'n llywio gweithgareddau
cyfathrebu ar faterion Ewropeaidd
- grymuso dinasyddion
- gweithio gyda'r cyfryngau a thechnolegau newydd
- deall barn gyhoeddus yn Ewrop
- gwneud y gwaith ar y cyd
Cau – 30 Medi 2006
Ymgynghori â'r Cyhoedd ar Ddeunyddiau Ar-lein yn y
Farchnad Sengl
Sut i symbylu twf gwir farchnad sengl yn yr UE ar gyfer
deunyddiau digidol ar-lein fel ffilmiau, cerddoriaeth a
gemau.
Cau – 13 Hydref 2006
Ymgynghori â'r cyhoedd ar-lein ar adnabod amleddau
radio (RFID)
Cau – 17 Medi 2006
e-Gymru – Ymgynghoriad Strategol
Mae dogfen strategaeth e-Gymru ar gael bellach at ddibenion
ymgynghori. Nod allweddol yr ymgynghori yw sicrhau'ch barn chi ar
sut i gael y gorau o Dechnoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu (TGCh) i
sicrhau gwell Cymru.
Cau – 31 Hydref 2006.
Ymgynghoriadau'r
Rhwymedigaethau Cyflwyno 3G
Mae Ofcom yn ceisio mesur i ba raddau y mae gwasanaethau 3G ar
gael i boblogaeth y DU ble maen nhw'n byw. O dan amgylchiadau
arferol, dylai'r gwasanaethau yma allu rhoi amrywiaeth o
gymwysiadau fel gwasanaethau llais, testun, fideo ac aml-gyfrwng
i'w derbyn y tu allan ar gyflymder o hyd at 384kbps. Y disgwyl yw
mai yn y trefi/maestrefi yn hytrach na chefn gwlad y bydd y
signalau ar gyfer y rhwymedigaeth yma ar gael.
Cau – 20 Hydref 2006
Trefnu bod Sbectrwm ar gael ym Mandiau 71-76GHz ac
81-86GHz
Mae Ofcom wedi lansio ymgynghoriad ynghylch cynigion i agor
bandiau sbectrwm 71-76 GHz ac 81-86 GHz (y "Bandiau Sbectrwm") ar
gyfer systemau
diwifr sefydlog ("FWS") band eang pwynt-i-bwynt ar sail
trwyddedu ysgafn.
Ar hyn o bryd, ni ellir defnyddio'r bandiau sbectrwm hyn yn
fasnachol. Fodd bynnag, mae technoleg newydd yn cynnig y
posibilrwydd o gymwysiadau newydd ar gyfer y bandiau amledd uwch
hyn.
Gallai'r cymwysiadau hyn gynnwys rhwydweithiau diwifr
pwynt-i-bwynt â gallu uchel iawn, sydd â'r potensial i gael eu
defnyddio yn lle cebl ffibr optig. Gallai cyflymder y data amrywio
rhwng 1Gb yr eiliad a 10Gb yr eiliad dros bellterau o 1-2 km. O'i
gymharu, mae dolenni copr yn nodweddiadol yn galluogi cyflymder
cysylltu rhwng 1 a 24 Mbps.
Cau – 2 Awst 2006
Newyddion y Farchnad
Y diweddaraf am BT 21CN
Mae BT wedi cario mwy na 23 miliwn o alwadau cwsmeriaid dros
IP yng nghyfnod diweddaraf eu treial ym mhroject 21CN.
Roedd y treial yn defnyddio cysylltiad IP i gario galwadau
llais rhwng dau nod yn rhwydwaith ffonau Caergrawnt a Woolwich, a
gariodd fwy na 625,000 o alwadau byw y dydd gan gwsmeriaid.
Yn ôl Deb Covey, rheolwr gyfarwyddwr BT Wholesale Networks:
"Mae 21CN yn magu momentwm wrth nesu at ddechrau trosi llinellau'r
cwsmeriaid i'r rhwydwaith newydd yn y De ym mis Tachwedd. Rydyn
ni'n cydweithio â gweddill y diwydiant i orffen y cynllun i'w
gyflwyno yn y DU gyfan. Rydyn ni'n codi stêm wrth baratoi safleoedd
ledled y wlad i'r offer gael ei osod yn yr haf."
Dylai'r treial gael ei gwblhau cyn cyfnod cyntaf symud nifer
fawr o gwsmeriaid i'r rhwydwaith IP newydd. Gan ddechrau ym mis
Tachwedd 2006, bydd hyn yn golygu symud rhyw 350,000 o linellau
cwsmeriaid yng Nghaerdydd a'r cylch.
Ystadegau ADSL Max Cymru
Cyfanswm cyfnewidfeydd Cymru: 434
Cyfnewidfeydd sy'n caniatáu ADSL: 399
Cyfnewidfeydd sy'n caniatáu SDSL: 18
Cyfnewidfeydd sy'n caniatáu ADSL Max: 399
Bydd ADSL Max yn cael ei osod yn y 35 cyfnewidfa arall.
Newyddion y farchnad yn fyr
Lansiodd Orange wasanaeth band eangADSL am
ddim i gwsmeriaid ffonau symudol sydd â bil misol dros £30 a
chontract 18 mis.

Mae
Vodafone wedi dilyn lansio'u
gwasanaethau band eang 3G HSDPA ym Mehefin drwy gyhoeddi lansio
modem USBVodafone Mobile Connect yn hydref 2006.
Drwy ei chysylltu â phorth USB ar eu cyfrifiadur, bydd y
ddyfais yn caniatáu i gwsmeriaid gyrchu gwasanaeth band eang 3G
cyflym Vodafone.
Bydd cwsmeriaid sy'n defnyddio modem USB Vodafone Mobile
Connect yn gallu manteisio ar gyflymderau lawrlwytho o ryw 1.4Mbps
a chyflymderau llwytho i fyny o hyd at 384 Kbps, er mai dim ond
mewn dinasoedd mawr yn Lloegr y mae'r gwasanaeth ar gael ar hyn o
bryd.
Cwblhaodd
NTL brynu Virgin Mobile ar 4
Gorffennaf 2006 ac ers hynny mae wedi lansio pecyn pedwarplyg
cyntaf y DU sy'n cyfuno ffôn, Rhyngrwyd, teledu a ffôn
symudol.
www.ntl.com
Mae E7even wedi dileu pob contract band eang gyda chwsmeriaid.
Mae'r cyn gwsmeriaid yn cael eu cyfeirio at ddarparwr arall o'r enw
Ezee DSL (sydd hefyd yn cael ei alw'n 186k Limited).
Mae Ofcom wedi bod yn cadw llygad barcud ar ddatblygiadau
E7Even, ac wedi agor ymchwiliad rheoleiddio ffurfiol ar y
cwmni.
Diweddariad dadfwndelu
Diweddariad yr OTA, Mai 2006
Cyhoeddodd Swyddfa'r Dyfarnwr Telathrebu (OTA) ar 2 Mehefin
2006 fod nifer y llinellau yn y DU a ddadfwndelwyd yn fwy na
471,000. Mae hyn yn gynnydd o'r 420,000 o linellau yn Ebrill
2006.
Datganodd yr OTA: "Rwy'n falch ein bod ni wedi cyrraedd
471,000 o linellau ar y llwyfannau a'r prosesau tactegol
presennol.
"Fodd bynnag, mae hi'n bwysig o hyd i ni gydnabod ei bod yn
hanfodol Cyflwyno PoPau Ôl-gludo ac sy'n Cydgymysgu mewn modd o
safon a newid i systemau Openreach Strategol (EMP) ar adeg pan fo
ar CPau angen ffwythiannaeth ar gyfer eu busnesau, er mwyn cadw'r
momentwm."
Roedd cyhoeddiadau yn y gorffennol wedi awgrymu bod potensial
i ddadfwndelu rhwng dwy a thair miliwn erbyn diwedd 2006.
Nod y Dyfarnwr Telathrebu yw hwyluso gweithredu'n gyflym y
prosesau y mae eu hangen i alluogi cystadleuwyr i fynd at ddolen
leol BT ar sail sy'n gyfartal â'r hyn y mae busnesau BT ei hun yn
elwa arnynt.
Cynghrair Dadfwndelu y DU
|
Darparwr
|
Wedi'u galluogi
|
Ffynhonnell
|
|
C&W
|
641
|
|
|
Sky
|
387
|
|
|
Tiscali
|
242
|
|
|
Orange
|
218
|
|
|
O2 (Be)
|
159
|
|
|
Homechoice
|
145
|
|
|
Edge
|
21
|
|
|
Node4
|
4
|
|
Cynghrair Dadfwndelu Cymru
|
Darparwr
|
Wedi'u galluogi
|
Ffynhonnell
|
|
C&W
|
8
|
|
|
Tiscali
|
4
|
|
Targedau Dadfwndelu ac eto i ddod
AOL
Targed: 300 erbyn hanner cyntaf 2006
Cable and Wireless (Bulldog)
Targed: 800 erbyn 30/09/2006
Carphone Warehouse (Talk Talk)
I ddod: 1,018 (30 yng Nghymru)
erbyn 31/08/2006
Orange
Cyfnewidfeydd wedi'u dadfwndelu 28
I ddod: 87 (12 yng Nghymru) erbyn 30/09/2006
O2 (Be)
I ddod: 23 erbyn 01/01/2007
Pipex
Targed: 100 erbyn 31/12/2006
Dadansoddiad o Ddata'r Farchnad
Cafwyd adroddiadau bod AOL am werthu eu
busnes yn y DU i BSkyB, Orange neu'r Carphone Warehouse am ryw
£650m. Mae gan y cwmni, sy'n perthyn i Time Warner, 2.3
miliwn o aelodau yn y DU gan gynnwys 1.1 miliwn o danysgrifwyr band
eang.
http://business.guardian.co.uk/
Mae Bulldog hefyd yn gwerthu eu 118,000 o
gwsmeriaid band eang yn ôl adroddiadau papur newydd, am nad ydyn
nhw'n gallu cystadlu â'r brandiau mawr fel Carphone Warehouse,
Orange a BSkyB.
Mae NTL i gyhoeddi canlyniadau Ail Chwarter
2006 ar 1 Awst 2006. Bydd unrhyw dwf ers y ffigurau blaenorol
yn golygu eu bod yn cadw eu blaenoriaeth dros BT.
Mae'r Carphone Warehouse wedi cyhoeddi eu bod
wedi sicrhau 596,000 o gwsmeriaid band eang, gan gynnwys 476,000
sydd wedi cofrestru i gael band eang am ddim.
Mae Orange wedi cyrraedd dros 1 miliwn o
danysgrifwyr band eang yn y DU.
Cafodd Band Eang Sky ei lansio ar 18
Gorffennaf 2006 ar ôl iddyn nhw brynu Easynet.
Mae Tiscali wedi cyhoeddi eu bod wedi
cyrraedd 1.2 miliwn o danysgrifwyr band eang yn y DU.
Ffynonellau'r Data:
(Canlyniadau 03/06/2006)
(Canlyniadau 31/07/2006)
Cysylltiadau Defnyddiol
Rhaglen Band Eang Cymru
Ewch i wefan Rhaglen Band Eang Cymru am wybodaeth am y
manteision y gall band eang eu rhoi i chi
Band Eang am Oes
Newyddion a Digwyddiadau Eraill
Cynllun Cofrestru "Mannau Gwael" RIBS
Os na allwch gael Band Eang o hyd wedi i chi gael gwybod bod
eich cyfnewidfa ffon yn gallu'i weithredu, cofrestrwch eich
manylion ar
www.abec.org.uk/blackspots.
Mae'r cynllun yn cael ei weithredu gan ABEC ar ran Llywodraeth
Cynulliad Cymru.
Sylwer y gwneir pob ymdrech i sicrhau y cyhoeddir y ffigurau
diweddaraf a mwyaf cywir sydd ar gael yn gyhoeddus yn y cylchlythyr
hwn ar adeg mynd i'r wasg, ond gall yr union ffigurau
amrywio.
Diolch am ddarllen y
Bwletin Band Eang gan Arsyllfa Band Eang Cymru
(ABEC). Cyhoeddir y cylchlythyr hwn unwaith y mis.
Ewch i wefan ABEC i danysgrifio i fwletinau yn y
dyfodol www.abec.org.uk
Os oes gennych unrhyw wybodaeth yr hoffech ei
chyfrannu, cysylltwch â: taflen_newyddion@abec.org.uk .
Ymchwil gan:
Golygwyd gan:
Rhys Gravell
Cyhoeddwyd gan:
Arsyllfa Band Eang Cymru
Canolfan Arloesi e-Fasnach
Prifysgol Caerdydd
Canolfan Technoleg Busnes Caerdydd
Heol Senghennydd
Caerdydd CF24 4AY
Ffôn: 029 2064 7030
Rheolir Arsyllfa Band Eang Cymru gan y Ganolfan
Arloesi e-Fasnach ym Mhrifysgol Caerdydd ar ran e-Gymru yn
Llywodraeth Cynulliad Cymru.