Marchnad Band Eang Belg 2005
Dadlwytho'r
Fersiwn PDF (PDF - 924KB)
Rhagymadrodd
Daearyddiaeth/Poblogaeth
Gwlad yng ngorllewin Ewrop ar Fôr y Gogledd rhwng Ffrainc a'r
Iseldiroedd yw Gwlad Belg ac mae ganddi wastadeddau arfordirol yn y
gogledd-orllewin, bryniau tonnog yn y canoldir a mynyddoedd coediog
garw yn y de-ddwyrain. Mae ganddi boblogaeth o 10.5 miliwn o bobl
sy'n byw ar 4.2 miliwn o aelwydydd a dwysedd poblogaeth o 339 o
drigolion am bob cilometr sgwâr Mae lefel y trefoli yn arbennig o
uchel. A dweud y gwir, amcangyfrifwyd mai dim ond 2.1%o'r
boblogaeth sy'n byw yng nghefn gwlad.
Economi
Y cynnyrch mewnwladol crynswth (CMC), sef $35,750, oedd y
pymthegfed uchaf yn y byd yn 2004 yn ôl y Gronfa Ariannol
Ryngwladol. Mae hyn yn cymharu â Lwcsembwrg, ar $75,130,
sydd â'r CMC uchaf yn y byd, a'r DU yn y trydydd safle ar ddeg,
gyda $36,599. Roedd CMC y pen yng Nghymru tua 79% o ffigur y
DU, sy'n gyfystyr a rhyw $28,915.
Rheoleiddiogulation
Cafodd y sector telathrebu ei ryddfrydoli'n llwyr ym mis
Ionawr 1998 ac mae'n cael ei reoleiddio gan Sefydliad
Gwasanaethau Post a Thelathrebu Gwlad Belg (BIPT) a gafodd
ei sefydlu ym mis Mawrth 1991. Corff lled-lywodraethol yw'r BIPT ac
mae ei annibyniaeth ar y Weinyddiaeth Telathrebu wedi bod yn destun
trafod. Oherwydd methiant i roi cyfarwyddebau'r UE ar waith, dygodd
y Comisiwn Ewropeaidd achos yn erbyn Gwlad Belg yn 2003 am dorri'r
cyfarwyddebau. Mae annibyniaeth y BIPT wedi'i gryfhau gan
ddeddfwriaeth wedyn, er ei fod yn dal o dan rywfaint o reolaeth y
llywodraeth.
Ymagwedd y Llywodraeth
Gan fod rhwydweithiau DSL a
chebl ar gael yn helaeth iawn, does gan y
llywodraeth ddim cynlluniau i ddefnyddio cronfeydd cyhoeddus i ddod
â band eang i ardaloedd sydd heb gymaint o wasanaeth. Targed y
llywodraeth yw y bydd 2.5 miliwn o aelwydydd a 500,000 o fentrau
bach a chanolig (MBCh) wedi'u cysylltu â band eang erbyn diwedd
2006. Y bwriad yw gwireddu'r amcan drwy wneud dau beth yn bennaf:
gwella'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig a lleihau prisiau
manwerthu yn sgil mwy o gystadlu.
Yn draddodiadol, mae gweithredwyr DSL a chebl wedi cynnig
cyflymderau sylfaenol uchel iawn: 3Mbps a 4Mbps yn y drefn honno, a
hyn am brisiau cymharol isel o'u cymharu â gwledydd eraill yr UE. O
ganlyniad i hyn, roedd treiddiad band eang yn uchel iawn yn nyddiau
cynnar y farchnad: gan Wlad Belg yr oedd treiddiad uchaf band eang
yng ngorllewin Ewrop ar ddiwedd 2002. Er hynny, methodd twf y
cysylltiadau â chyd-redeg â phrif genhedloedd eraill gorllewin
Ewrop, fel Denmarc a'r Iseldiroedd, gan ysgogi'r llywodraeth
ffederal i alw ar y gweithredwyr, ym mis Tachwedd 2003, i ddod â
chynnig 'ysgafn' i'r farchnad, gyda phrisiau is a chyflymder
is.
Mae'r llywodraeth hefyd yn gweld band eang fel maes allweddol
ar gyfer gwella'r cysylltiadau rhwng y gwahanol gymunedau a
rhanbarthau (Fflandrys, Walonia, Brwsel).
Mentrau
Mae Cymhwyso Rhyngrwyd Band Eang Gwlad Belg
(BIBA) yn fenter a ddechreuwyd yn ystod 2002 gan Weinidog
Telathrebu Gwlad Belg i roi hwb i ddatblygu cymwysiadau band eang.
Mae llwyfan BIBA yn caniatáu i weithredwyr diwydiannol lansio
gwasanaethau newydd sydd wedi'u seilio ar y technolegau presennol
sydd â gwir botensial yn y farchnad ac sydd wedi'u hanelu at MBCh.
Mae'r cymwysiadau peilot ar waith yn y sectorau iechyd, diogelwch,
e-ddysgu neu deleweithio.[5]
Mae'r llywodraeth wedi buddsoddi mewn porth ffederal sy'n
cynnig cymwysiadau rhyngweithiol fel "treth-ar-y-we", ac mae wedi
ymrwymo i ddatblygu rhagor o gymwysiadau sydd wedi'u galluogi ar
gyfer band eang.[6]
Mae project "I-Line", a lansiwyd ym 1998, wedi cysylltu
ysgolion, llyfrgelloedd ac ysbytai â'r rhyngrwyd. Ers 2002, mae'r
llywodraeth wedi sicrhau bod y rhain yn gysylltiadau band eang sydd
wedi'u seilio ar dariff arbennig.[7] Gall llyfrgelloedd gael
cysylltiad I-Line ADSL heb gost, tra bydd ysgolion ac ysbytai'n
talu EUR37 y mis am gysylltiad I-Line ADSL. [8]
Er mwyn rhoi hwb i ddefnyddio TGCh mewn busnesau, cafwyd
nifer o weithgareddau marchnata i ddangos manteision
technoleg bandband eang ar gyfer MBCh. Mae'r rhain yn cynnwys
sioe deithiol Agoria, a oedd yn rhedeg rhwng 2001a
2002 ar "entrepreneuriaeth rithwirship"[9].
Mae'r Sefydliad Technoleg Band Eang (IBBT) yn
sefydliad ymchwil sydd wedi'i ariannu gan y llywodraeth
Ffleminaidd. Mae'n canolbwyntio ar TGCh yn gyffredinol, a chymhwyso
technoleg band eang yn benodol. Mae ymchwil y sefydliad yn
canolbwyntio'n bennaf ar e-Lywodraeth, e-Iechyd, e-Gyfryngau a
symudedd a logisteg. Y strategaeth y mae'r sefydliad wedi'i datgan
yw:
- Cyflawni rhaglenni ymchwil sydd wedi'u cymell gan y galw, gan
hoelio sylw ar ddatblygu gwybodaeth generig;
- Cyflawni projectau ymchwilio a datblygu i gwmnïau penodol
gyda'r diwydiant a'r sector gwasanaethau ac ar eu hysgogiad nhw
a/neu gymryd rhan mewn rhaglenni ymchwil Ewropeaidd;
- Darparu amgylchedd profion ymchwil ar gyfer rhwydweithiau band
eang i'w ymchwilwyr a'i bartneriaid;
- Sefydlu a monitro fforwm gan anelu at greu rhwydwaith eang
rhwng yr holl weithredwyr economaidd, gwyddonol a chymdeithasol
perthnasol10].
Y Gweithredwr Gwreiddiol
O ran preifateiddio'r farchnad delathrebu, cafodd y
gweithredwr gwreiddiol, Belgacom, ei breifateiddio gan y
llywodraeth ym mis Rhagfyr 1994 ond cadwodd fonopoli ar farchnad
teleffoni Gwlad Belg tan fis Ionawr 1998. Mae'r rhan fwyaf o
Belgacom yn dal yn perthyn i'r wladwriaeth, sydd â 50% o gyfran yn
y cwmni. Yn ystod mis Mai a mis Mehefin 2005, prynodd Belgacom rai
o'i gyfrannau yn ôl fesul pecyn o EUR100 miliwn, a hynny ar ôl
cyhoeddi ym mis Chwefror 2005 y byddai'n adbrynu cyfrannau a
fyddai'n werth hyd at EUR300 miliwn.
Lled Band Rhyngwladol
O ran y lled band rhyngwladol, Gwlad Belg
oedd â'r bumed lefel uchaf am bob trigolyn yn y byd yn 2004, yn ôl
yr Undeb Telathrebu Rhyngwladol (ITU), gyda mwy
nag 11Mbps y person. Denmarc oedd â'r lefel uchaf, sef tua 35Mbps y
person ac roedd y DU yn bedwerydd uchaf, gyda lled band o ryw
13Mbps y person[11].
Mae'r cwmni rheilffyrdd cenedlaethol, SNCB/NMBS, wedi adeiladu
rhwydwaith meingefn ffibr sy'n rhedeg wrth ochr eu
rhwydwaith rheilffyrdd. Mae hwn yn cael ei ddefnyddio i ddarparu
Ethernet dros gysylltiadau ffibr i fusnesau mawr
ac mae hefyd yn cael ei brydlesu i weithredwyr trydydd parti[12].
Belgacom, Telenet a Versatel (sydd bellach yn rhan o Tele2) yw'r
gweithredwyr meingefn cenedlaethol eraill. Mae nifer o weithredwyr
rhyngwladol yn bresennol hefyd, a chanddyn nhw feingefnau sy'n
cysylltu sawl dinas yng Ngwlad Belg.
TGCh
Treiddiad TGCh sylfaenol
O ran defnyddio TGCh, mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael
yn dangos bod gan 56% o aelwydydd gyfrifiadur personol[13] yn 2003,
a bod gan 50% o'r holl aelwydydd fynediad i'r rhyngrwyd ar ddiwedd
2005. Mae'r ffigurau yma ychydig yn is na'r cyfartaledd o'u cymharu
â'r lefelau treiddiad ar gyfer gwledydd yr OECD, yn achos treiddiad
cyfrifiaduron personola'r rhyngrwyd i aelwydydd. Gan Wlad yr Iâ y
mae'r lefelau uchaf yn Ewrop o gyfrifiaduron personol, sef 86% o'r
aelwydydd, ac o'r rhyngrwyd, sef 81% o'r aelwydyddIn[15].
Ffigur 1 -– Treiddiad cyfrifiaduron
personol a'r rhyngrwyd ymhlith preswylwyr, OECD Science, Technology
and Industry: Scoreboard 2005
Mae ISPA Gwlad Belg (Cymdeithas y Darparwyr
Gwasanaethau Rhyngrwyd) wedi dweud bod treiddiad isel y cyfrifiadur
personol ar aelwydydd Gwlad Belg yn dal yn broblem ar gyfer twf y
rhyngrwyd. Er hynny, disgwylir y bydd menter gan y llywodraeth
ffederal a'r sector TGCh i gynnig pecynnau y gellir eu gosod yn
erbyn y dreth yn lleihau'r 'rhaniad digidol' yma16].
Mae Belgacom hefyd wedi crybwyll treiddiad isel TGCh sylfaenol
fel rhwystr sy'n atal rhagor o dwf band eang yn y farchnad. Maen
nhw wedi enwi tri amod ar gyfer sicrhau y bydd technolegau band
eang yn treiddio'n dda:
- sicrhau bod cyfrifiaduron personol yn treiddio'n dda ymhlith y
boblogaeth
- sicrhau bod y boblogaeth sydd â chyfrifiadur personol yn mynd
ar-lein
- sicrhau bod band eang yn treiddio ymhlithy boblogaeth sydd
ar-lein
Band eang
Y farchnad band eang
Ar ddiwedd mis Rhagfyr 2005, cyfrifwyd bod
tua 2.1miliwn o linellau band eang, sef twf o ryw 370,000 o
gysylltiadau, neu 17.5%, yn ystoduring 2005[17].
Ffigur 2 -– Cyfanswm y
tanysgrifiadau band eang fesul gwlad, OECD, Rhagfyr
2005
Mae twf y farchnad yn cymharu'n wael â'r twf o 33% a
welwyd ar draws yr OECD[18] a'r twf o 37% ledled y
byd[19] dros yr un cyfnod; sy'n dangos bod marchnad band eang Gwlad
Belg wedi arafu.
Ffigur 3 -– Twf band eang dros
hanner cyntaf 2005 a threiddiad band eang yn ôl y boblogaeth, OECD
Broadband Statistics, Rhagfyr 2005
Mae Analysys Research yn darogan y bydd
tua 2.25 miliwn o gysylltiadau band eang erbyn diwedd 2006.
Treiddiad band eang
Yn ôl ffigurau'r OECD, mae Gwlad Belg yn y degfed safle yn yr
OECD yn nhermau treiddiad band eang am bob pen o'r boblogaeth; gyda
18.3% yn hawlio gwasanaeth ym mis Rhagfyr 2005. Mae'r ffigur yma'n
gosod Gwlad Belg ar y blaen i'r OECD yn ei grynswth, lle'r oedd y
treiddiad cyfartalog wedi cyrraedd 13.6% o'r boblogaeth. Gwlad yr
Iâ, lle mae band eang wedi treiddio i 26.7% o'r boblogaeth, oedd
â'r treiddiad uchaf yn y byd, ar y blaen i Gorea (25.4%) a'r
Iseldiroedd (25.3%). Groeg oedd â'r treiddiad band eang isaf yn yr
OECD, gydag 1.4 o gysylltiadau band eang am bob 100 o
bobl[20].
Ffigur 4 – - Treiddiad band eang yn
ôl y boblogaeth, OECD Broadband Statistics,Rhagfyr
2005
Mae lefelau uchel y treiddiad yng Ngwlad Belg yn deillio i
raddau helaeth o'r ffaith bod gwasanaethau band eang sydd â
chyflymder sylfaenol cymharol uchel o 3Mbps wedi'u cyflwyno'n
gynnar, a'r ffaith bod lefelau'r argaeledd yn uchel iawn; roedd
gwasanaethau band eang ar gael i 98% o'r boblogaeth mor gynnar â
diwedd 2002.
Ffigur 5 -– Treiddiad band
eang yn ôl aelwydydd (y deg gwlad uchaf),, World Broadband
Statistics Q4 2005, Point Topic, Rhagfyr 2005
O ran treiddiad band eang fesul aelwyd, yn ôl Point
Topic, roedd gan Wlad Belg dreiddiad o 43.5% o'r aelwydydd
ym mis Rhagfyr 2005; mae hynny'n gosod Gwlad Belg y tu allan i'r
deg gwlad uchaf yn y byd. Mae hyn yn llawer is na threiddiad
aelwydydd Corea, yr uchaf yn y byd, a oedd tua 78.5% o'r aelwydydd
bryd hynny. Ym Monaco yr oedd y lefelau treiddiad uchaf yn Ewrop,
sef 69% o'r holl aelwydydd, ac roedd yr Iseldiroedd a Denmarc yn
sgorio'n uchel hefyd, gyda 58% a 54% yn y drefn honno[21].
Marchnad band eang busnes
O ran y farchnad fusnes, mae rhyw 700,000 o fusnesau yng
Ngwlad Belg, a mentrau bach a chanolig eu maint (MBCh) yw rhyw 97%
ohonynt. Mae'r ffigurau diweddaraf yn 2004 yn dangos bod mynediad
i'r rhyngrwyd gan 96% o'r holl fentrau a oedd â 10 a rhagor o
weithwyr amser-llawn. Mae'r ffigurau hefyd yn dangos bod 70% o'r
holl fentrau a oedd â 10 a rhagor o weithwyr amser-llawn yn
defnyddio cysylltiad band eang. Mae'r ddau ffigur ymhell ar y blaen
i gyfartaledd yr OECD [22].
Ffigur 6 -– Treiddiad y rhyngrwyd a
band eang ymhlith busnes OECD Science, Technology and Industry:
Scoreboard 2005
Cyflenwad band eang
O ran seilwaith band eang, erbyn diwedd 2005 roedd
cyflenwad ADSL wedi cyrraedd 98.5% o'r aelwydydd.
Mae'r seilwaith cebl wedi'i ddatblygu'n dda hefyd, gan ei fod ar
gael i fwy na 95% o'r aelwydydd. Mae cyfran fawr o hyn wedi'i
huwchraddio ar gyfer gwasanaethau band eang dwy-ffordd.
Ffigur 7 -– Amcangyfrif o'r
cyflenwad band eang, Analysys Research,Medi
2005
Roedd cyflenwad da o fand eang ar gael yn gynnar iawn o'i
gymharu â gwledydd eraill, a hynny i raddau helaeth o ganlyniad i
lefelau uchel y trefoli a oedd yn golygu ei bod yn hawdd iawn gosod
rhwydweithiau a fyddai'n cynnwys cyfran fawr iawn o'r boblogaeth.
Yn ôl Belgacom, roedd y cyflenwad ADSL wedi cyrraedd 98% o'r
boblogaeth mor gynnar â diwedd 2002[23].
Technoleg
Y gyfran o'r farchnad
O ran gwasanaethau band eang, ym mis Rhagfyr 2005, DSL oedd y
dechnoleg amlycaf; sef 61% o gyfanswm y cysylltiadau band eang.
Cebl yw'r cyfan bron o'r cysylltiadau eraill, sef 39% o gyfanswm y
cysylltiadau band eang[24].
Mae hyn yn rhaniad cymharol gydradd rhwng y ddwy dechnoleg,
o'i gymharu â llawer o farchnadoedd eraill gorllewin Ewrop lle DSL
yw'r dechnoleg amlycaf o bell ffordd, ac mae i'w briodoli i
gyflenwad eang technoleg DSL a thechnoleg cebl fel ei
gilydd.
Ffigur 8 -– Marchnad band eang
gorllewin Ewrop yn ôl y math o dechnoleg, Analysys Research,
Rhagfyr 2005
DSL
Cafodd gwasanaethau ADSL eu lansio am y tro cyntaf gan
Belgacom ym mis Ebrill 1999. Er hynny, nid tan fis Gorffennaf 2001
yr oedd gwasanaeth bitstream cyfanwerthu ar gael a oedd yn
dderbyniol gan y rheoleiddiwr, BIPT. Rhoddodd hyn gychwyn da i'r
gweithredwr gwreiddiol dros y darparwyr DSL manwerthol eraill, gan
arwain at gyfran uchel iawn o'r farchnad DSL fanwerthol[25].
Mae marchnad Gwlad Belg wedi gweld rhywfaint o gydgrynhoi dros
yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Tynnodd France Telecom a KPN yn ôl
o'r farchnad yn gynnar yn 2003 ac, ym mis Rhagfyr 2004, gwerthodd
Tiscali eu hasedau yng Ngwlad Belg i Scarlet Telecom26].
Erbyn hyn, mae'r mwyafrif o'r darparwyr gwasanaethau DSL
eraill yn cynnig naill ai ailwerthu cynhyrchion cyfanwerthu neu
gynhyrchion bitstream, sy'n golygu nad oes llawer o wahaniaethu yn
y farchnadfa.
Un peth newydd pwysig oedd lansio'r gwasanaeth
VDSL cyntaf gan Belgacom, ym mis Tachwedd
2004. Mae'r gwasanaeth ar gael am danysgrifiad o EUR59.95 y
mis ac mae'n cynnig hyd at 9Mbps tuag i lawr i'r
tanysgrifwyr. Mae'r gwasanaeth wedi'i uwchraddio wedyn i
gynnig cyflymderau lawrlwytho o hyd at 17Mbps a chyflymderau
llwytho i fyny o hyd at 400kbps[27].
Does dim cynnyrch VDSL cyfanwerthol ar gael eto gan Belgacom.
Mae gweithredwyr eraill wedi dechrau cyflwyno rhwydweithiau
ADSL2+ i gystadlu â'r cynnyrch VDSL sydd â lled
band uwch. Mae rhai o'r gweithredwyr yma'n cwyno bod y gwasanaeth
VDSL yn amharu ar eu cynnydd nhw am fod yna ymyrraeth rhwng y ddwy
safon dros y ddolen leol.[28].
Y farchnad LLU
Trefnwyd bod dadfwndelu dolenni lleol Local
loop unbundling war gael ym mis Ionawr 2001 mewn ymgais i ddod â
mwy o gystadlu i'r farchnad o ran y seilwaith. Er hynny, chafodd y
dolenni cyntaf mo'u dadfwndelu tan ail hanner 2001 oherwydd nifer o
anghydfodau rhwng y gweithredwr gwreiddiol a'r rheoleiddiwr. Mae'r
farchnad LLU yn cael ei rheoleiddio ar y sail bod rhywfaint yn cael
ei dynnu oddi ar y pris manwerthu (hynny yw, mae prisiau am
gysylltiadau LLU yn cael eu pennu ar sail y prisiau i'r defnyddiwr
neu'r prisiau manwerthu am y gwasanaethau terfynol cyfatebol. Mae'r
disgownt oddi ar y prisiau manwerthu fel arfer yn cael ei bennu fel
canran benodedig o'r pris manwerthu).
Ffigur 9 -– Llinellau DSL wedi'u
dadfwndelu fel canran o gyfanswm y llinellau DSL, ECTA, Rhagfyr
2005
O ystyried mor aeddfed yw'r farchnad band eang, canran fach
iawn yn unig o'r llinellau DSL sydd gan y farchnad LLU. Mae
ffigurau ECTA yn dangos bod 9,400 o ddolenni lleol wedi'u
dadfwndelu erbyn diwedd Rhagfyr 2005,sef 0.7% o'r
farchnad DSL; un o'r cyfrannau LLU isaf o'r
farchnad DSL yng ngorllewin Ewro[29].
Gweithredwyr LLU
Mae Scarlet Telecom wedi dod i'r amlwg fel y prif ddarparwr
band eang amgen yng Ngwlad Belg ac mae'n anelu at gyflenwi 75% o
dir Gwlad Belg erbyn canol 2006 gyda galluoedd ADSL2+[30]. Mae
Scarlet yn cynnig ADSL ac SDSL dros ddolenni
lleol sydd wedi'u dadfwndelu ac mae wedi mynd ati'n egnïol i
dargedu'r sector preswyl. Cynyddodd niferoedd tanysgrifwyr Scarlet
ym mis Rhagfyr 2004 ar ôl iddyn nhw brynu Tiscali Gwlad Belg am
EUR19 miliwn[31].
Un darparwr sy'n dod i'r amlwg yn y farchnad yw Tele2 sydd
wedi dod yn ddarparwr o bwys drwy eu strategaeth brisio ymosodol.
Ym mis GorffennafIn 2005, cyhoeddodd Tele2 eu bod yn bwriadu
prynu gweithredwr o Wlad Belg o'r enwperator Versatel. Ar ôl
canolbwyntio o'r blaen ar ailwerthu, mae'r symudiad yma'n caniatáu
i Tele2 symud i waith wedi'i seilio ar gyfleusterau drwy
ddefnyddio rhwydwaith LLU Versatel. Ar hyn o bryd Tele2
sy'n cynnig y gwasanaeth 4Mbps rhataf yn y farchnad ac mae
ganddyn nhw hefyd wasanaeth ADSL heb danysgrifiad gyda
thaliadau sydd wedi'u seilio ar amser[32].
Cebl
Mae yna raniad pendant rhwng y de a'r gogledd yn sector cebl
Gwlad Belg. Telenet sydd amlycaf yn y gogledd Iseldireg ei iaith,
ac mae gan y de Ffrangeg ei iaith 11 o weithredwyr cebl lleol. UPC
Gwlad Belg sydd amlycaf yn ardal Brwsel. Mae Telenet ac UPC wedi
gorffen uwchraddio'u rhwydweithiau nhw, gan ganiatáu gwasanaethau
band eang dwyffordd.[33]. Mae Telenet hefyd yn symud y tu hwnt i'w
hôl troed cebl drwy gynnig gwasanaethau drwy gyfrwng via
DSL.
Cafodd yr ymateb cynnar i wasanaethau band eang ei
ysgogi gan y sector cebl a fu'n dominyddu'r farchnad band eang
tan ddechrau 2002 pan gafwyd nifer fwy o gysylltiadau DSL
na chebl am y tro cyntaf.
Er eu bod mor helaeth, dydy rhwydweithiau cebl ddim yn
dod o dan reoliadau LLU.
FWA
Mae trwyddedau band eang Mynediad Diwifr
Sefydlog wedi'u rhoi i dri gweithredwr. Lansiodd Clearwire
wasanaethau FWA ym mis Mai 2005, gan gyflenwi 50% o ardal
Brwsel[34]. Er hynny, araf iawn fu'r ymateb ac mae Analysys
Research yn amcangyfrif mai dim ond rhyw 1,000 o gysylltiadau
FWA oedd yn y wlad ar ddiwedd 2005. Byddai hynny'n llai
na 0.05% o'r holl gysylltiadau band eang.
O ran mannau poeth ar gyfer cysylltiadau diwifr cyhoeddus,
roedd gan Telenet fwy na 1,000 o fannau poeth diwifr ledled Gwlad
Belg a Lwcsembwrg erbyn diwedd mis Ionawr 2006[35], ac roedd
gan Belgacom ryw 650 ar yr un adeg[36].
Ffibre
Does dim mentrau ar hyn o bryd i ddarparu cysylltiadau ffibr
preswyl. Er hynny, mae nifer o weithredwyr yn darparu cysylltiadau
ffibr i fusnesau. Mae Analysys Research yn amcangyfrif bod rhyw
3,000 o gysylltiadau ffibr i fusnesau.
Gweithredwyr
Y gyfran o'r farchnad
Y farchnad gyfanwerthu
O safbwynt y gweithredwyr, mae dau ddarparwr o bwys yn
dominyddu marchnad telathrebu Gwlad Belg: Belgacom (DSL) a Telenet
(Cebl). Mae gan Belgacom gyfran fawr iawn o'r farchnad DSL am nad
oes yna fawr o gystadlu o du gweithredwyr LLU; llinellau Belgacom
oedd 99.3% o'r holl linellau DSL cyfanwerthu ym mis Rhagfyr 2005.
Mae hynny'n gyfystyr â 61% o'r holl gysylltiadau band eang
cyfanwerthu. Cysylltiadau Telenet oedd 30% o'r holl linellau
cyfanwerthu ar ddiwedd 2005[37].
Ffigur 10 -– Cyfrany gweithredwr
gwreiddiol o'r farchnad gyfanwerthu a'r farchnad fanwerthu yng
ngorllewin Ewrop, Analysys Research, Rhagfyr
2005
Y farchnad fanwerthu
Cymharol ychydig o ISPs manwerthu sydd gan Wlad Belg o'i
chymharu â marchnadoedd eraill yng Ngorllewin Ewrop. Yn ôl ISPA
Gwlad Belg, roedd 95% o'r holl gysylltiadau â'r rhyngrwyd yn cael
eu darparu gan 35 yn unig o ISPs[38]. Mae'r lefel isel yma o
gystadlu yn golygu bod gan Belgacom gyfran uchel o farchnad
fanwerthu DSL Gwlad Belg; ym mis Rhagfyr 2005, tanysgrifiadau
Belgacom oedd 77% o'r farchnad fanwerthu DSL. Mae hynny'n gyfartal
â 47% o gyfanswm y farchnad manwerthu band eang [39].
Gwasanaethau
Cyflwyno Deunyddiau
Chwarae triphlyg
Tan ganol 2005, roedd bwndelu gwasanaethau yng Ngwlad Belg yn
anghyfreithlon ac oherwydd hynny, rhywbeth newydd yn y farchnad yw
cynigion fel chwarae triphlyg.Er hynny,
am eu bod yn wynebu marchnad band eang sy'n arafu, mae llawer o
weithredwyr erbyn hyn yn dechrau hoelio sylw ar gynigion chwarae
triphlyg. Mae Telenet wedi arddel ymagwedd anghonfensiynol at
wasanaethau wedi'u bwndelu yn yr ystyr nad ydyn nhw'n cynnig
gostyngiad i gwsmeriaid sy'n tanysgrifio i fwy nag un gwasanaeth.
Serch hynny, mae Telenet yn un o'r prif weithredwyr chwarae
triphlyg ac ar ddiwedd 2005 roedd ganddyn nhw 176,000 o gwsmeriaid
chwarae triphlyg[40].
IPTV
Yn sgil treial chwe mis gyda 1,000 o aelwydydd, lansiodd
Belgacom eu gwasanaeth IPTV, Belgacom TV, ym mis Mehefin 2005.
Mae'r gwasanaeth yn cynnwys 55 o sianeli teledu, gan gynnwys gemau
pêl-droed yn fyw o Wlad Belg a'r Eidal, VoD, recordio fideo
personol a phori'r rhyngrwyd ar setiau teledu. Ar ddiwedd 2005,
roedd Belgacom TV ar gael i ryw 60% o boblogaeth Gwlad Belg ac
roedd rhyw 33,000 o bobl Gwlad Belg wedi tanysgrifio i'r
gwasanaeth[41].
Lansiodd Telenet eu gwasanaeth iDTV masnachol nhw
ym mis Mehefin 2005 ar ôl prynu Canal Plus Vlaanderen
(CPV), sef cangen Ffleminaidd Canal Plus oddi
wrth Vivendi ym mis Tachwedd 2003. Mae Telenet hefyd yn
cynnwys gwasanaethau PC-TV, gan
gynnwys fideo-ar-alw a lawrlwytho cerddoriaethnd.
VoIP
Lansiodd Telenet wasanaeth VoIP ym mis
Gorffennaf 2004. Erbyn diwedd 2005 roedd ganddyn
nhw 175,000 o gwsmeriaid yn barod[42].
Ffonau symudol yn disodli ffonau sefydlog
Y ffaith bod ffonau symudol yn disodli ffonau sefydlog yw un
o'r prif fygythiadau yn y farchnad i Belgacom. Mae nifer y
llinellau PSTN mewn gwasanaeth wedi dirywio ers cyrraedd ei
anterth, sef mwy na 4.5 miliwn ym 1998, i lai na 3.7
miliwn ar ddiwedd 2005. Mae hyn yn deillio o gael cysylltiad
band eang yn lle ail linell i gyrchu'r rhyngrwyd a chael ffôn
symudol yn lle ffôn sefydlog. Roedd rhyw 26% o'r aelwydydd yn
defnyddio ffôn symudol yn unig erbyn diwedd 2004[43]. Mae hyn
yn uchel iawn o'i gymharu â'r DU, lle mae tuag 8% o'r aelwydydd yn
defnyddio ffôn symudol yn unig. Mae ffigur Cymru rhwng y ddau hyn,
sef 13% o'r aelwydydd. [44].
Mae Versatel (sydd erbyn hyn yn rhan o Tele2) yn cynnig bwndel
band eang a theleffoni sefydlog sy'n defnyddio VoIP. Maen nhw hefyd
wedi lansio MVNO (Gweithredwr Rhwydweithiau Rhithwir Symudol) ac yn
bwriadu ymgorffori gwasanaethau symudol mewn gwasanaethau wedi'u
bwndelu yn y dyfodol.
I fynd i'r afael â'r duedd i gael ffôn symudol yn lle ffôn
sefydlog, mae Belgacom wedi lansio ymgyrch i ennill cwsmeriaid yn
ôl. Roedd hyn yn cynnwys gwasanaeth am ffi rentol ostyngedig o
EUR6.50, yn lle'r EUR16.80 arferol, wedi'i gynllunio i berswadio
cwsmeriaid symudol i gymryd gwasanaeth llinell sefydlog. Maen nhw
hefyd yn targedu'r cwsmeriaid preswyl presennol gyda chynigion i'w
cadw[45].
Does dim cynnig DSL manwerthu noeth yn y farchnad. Er hynny,
mae un o gynigion DSL bitstream Belgacom yn wasanaeth DSL
cyfanwerthu noeth i bob pwrpas ac oherwydd hynny mae presenoldeb
gwasanaethau sy'n bwndelu band eang a ffôn symudol ar
gynnydd[46].
Prisiau
Prisiau gwasanaethau
O ran prisiau, mae cost pecynnau sylfaenol band eang y
'genhedlaeth gyntaf' yn draddodiadol wedi bod yn isel o'i
chymharu â marchnadoedd eraill yng ngorllewin Ewrop. Er hynny, nid
yw Gwlad Belg wedi gweld y strategaethau prisio ymosodol sydd
wedi'u profi mewn marchnadoedd fel Ffrainc a'r Iseldiroedd ac,
oherwydd hynny, mae prisiau 2005 ychydig yn ddrutach na
marchnadoedd eraill yng ngorllewin Ewrop. Roedd gwasanaeth 0.5Mbps
yn costio tua EUR30 y mis yn 2005, tra oedd gwasanaethau tebyg yn y
DU, Ffrainc a'r Iseldiroedd yn costio tua EUR20-25 y mis[47].
Roedd gwasanaethau band eang yr 'ail
genhedlaeth' yn costio tua EUR60 y mis ar ddiwedd 2005.
Mae'r rhain yn debyg i'r prisiau yn yr Iseldiroedd ond gryn dipyn
yn fwy costus nag yn Ffrainc lle mae gwasanaethau'r 'ail
genhedlaeth' ar gael at ei gilydd am EUR30-40 ond cyn lleied â
EUR15 yn ardaloedd rhai o'r cyfnewidfeydd sydd wedi'u
dadfwndelu[48].
Mae'r darparwyr yn parhau i frwydro am farchnad y pen uchel.
Mae Telenet a Belgacom wedi uwchraddio'u rhwydweithiau i gynnal
gwasanaethau ar led band uwch. Y cynigion lled band uchaf oedd ar
gael yn y farchnad ar ddiwedd 2005 oedd gwasanaeth chello extreme
20Mbps UPC, gwasanaeth ExpressNet Turbo 20Mbps Telenet a gwasanaeth
VDSL 17Mbps Belgacom. EUR59.95 y mis oedd pris pob un o'r
gwasanaethau hyn[49].
Doedd dim ymgais wedi'i wneud i gael troedle ym mhen isaf y
farchnad tan ddechrau 2004, pan gyflwynodd llawer o weithredwyr
fersiynau cost-isel o'u gwasanaethau i wella'r gyfran oedd yn trosi
o ddeialu i fand eang ac i ddenu defnyddwyr newydd. Un peth newydd
pwysig oedd model "ADSL Ysgafn", fel gwasanaeth wedi'i seilio ar
amser a oedd yn caniatáu tanysgrifiad band eang am gost fisol
ostyngedig. Versatel oedd y gweithredwr cyntaf i lansio cynnyrch
ADSL heb danysgrifiad, lle mae'r cwsmer yn talu wrth y funud, a
hynny ym mis Rhagfyr 2003. Cyflwynodd Belgacom hefyd dariff wedi'i
seilio ar amser ym mis Ionawr 2005. Cynigiodd ADSL Time ddwy awr o
gysylltiad am EUR4.95, a phob munud ychwanegol yn costio EUR0.043.
Mae'r ddau gwmni'n honni nad ydyn nhw wedi canibaleiddio'r refeniw
oedd ganddyn nhw yn barod, ond does dim cynnydd arwyddocaol wedi'i
weld yn y farchnad o ran y niferoedd sy'n trosi o ddeialu i fand
eang ac mae'r twf cyffredinol wedi arafu o'i gymharu â'r twf ym
marchnadoedd eraill gorllewin Ewrop[50].
Mae Belgacom hefyd yn targedu adrannau arbenigol drwy gyfrwng
eu gwasanaeth Dechrau Hawdd a gafodd ei lansio ym mis Medi 2004.
Mae'r gwasanaeth yn anelu at bobl dros 55 oed, ac mae'n cynnwys un
o wasanaethau ADSL Belgacom, diwrnod o hyfforddiant ar ddefnyddio'r
rhyngrwyd ac awr o hyfforddiant mewn bancio ar-lein[51].
Casgliad
Mae marchnad band eang Gwlad Belg wedi'i datblygu'n dda iawn
o'i chymharu â marchnadoedd band eang eraill gorllewin Ewrop (fel
Ffrainc, yr Almaen a'r DU) yn nhermau treiddiad cyffredinol
gwasanaethau band eang – ergwaethaf gwendid cymharol marchnad
ryngrwyd y wlad a threiddiad isel cyfrifiaduron personol. Mae hyn
yn deillio o'r ffaith bod gwasanaethau band eang ar gael yn helaeth
drwy seilwaith DSL a chebl ac o'r cyflymderau sylfaenol uchel a
oedd yn cael eu cynnig gan y gweithredwyr yn nyddiau cynnar
datblygiad y farchnad.
Mae lefelau treiddiad band eang ymhlith yr uchaf yn Ewrop, sef
18.3 o gysylltiadau band eang am bob 100 o drigolion ar ddiwedd
2005. Mae hyn yn dal yn bell o gyrraedd lefelau dwysedd y ffôn;
amcangyfrif Analysys Research oedd bod 66 o linellau ffôn am bob
100 o drigolion ar ddiwedd 2005. Mae hyn yn awgrymu bod digon o le
i fand eang dyfu ymhellach yn y farchnad.
Er hynny, mae'r twf o ran cysylltiadau band eang newydd wedi
dechrau arafu. Effaith gyfyngedig yn unig a gafodd mentrau gan
weithredwyr band eang i ostwng cyfraddau tanysgrifio er mwyn denu
cwsmeriaid newydd drwy gyflwyno gwasanaethau 'ysgafn'. Mae hyn yn
adlewyrchu maint cymharolfach y farchnad bosibl, sy'n deillio o
dreiddiad isel y cyfrifiadur personol. Yr her fwyaf i'r farchnad
fydd annog pobl sydd heb gyfrifiadur personol i brynu un. Efallai y
bydd y mesurau treth arfaethedig sydd i'w cyflwyno er mwyn gostwng
y rhwystrau ariannol sy'n atal pobl rhag prynu cyfrifiadur personol
yn helpu i oresgyn y rhwystr yma. Er hynny, gan fod prisiau
cyfrifiaduron personol wedi gostwng dros y blynyddoedd diwethaf,
nodwyd ei bod yn bosibl nad un ariannol yw'r rhwystr.
Yn y farchnad aeddfed yma, mae darparwyr cysylltiadau yng
Ngwlad Belg yn cynnig gwasanaethau ac iddyn nhw led band uchel, ac
mae gwasanaethau 20Mbps tuag i lawr ar gael am ryw EUR60 y mis, er
nad yw Gwlad Belg wedi gweld y prisiau ymosodol sydd wedi'u gweld
mewn marchnadoedd eraill yng ngorllewin Ewrop fel Ffrainc. Er
hynny, dylid nodi nad yw gwasanaethau lled band uchel yn debyg o
hybu'r niferoedd sy'n mabwysiadu band eang nac o gynyddu'r refeniw
cyfartalog oddi wrth bob defnyddiwr heb y deunyddiau a'r
gwasanaethau angenrheidiol. Oherwydd hynny, mae ffocws y farchnad
wedi symud tuag at gyflwyno deunyddiau, yn enwedig gwasanaethau
teledu a phecynnau chwarae triphlyg.
Mae presenoldeb cynyddol ffonau symudol mewn bwndeli
telathrebu yn adlewyrchu'r ffaith bod y duedd i ffonau symudol
ddisodli ffonau sefydlog yn arbennig o gryf yng Ngwlad Belg lle'r
oedd rhyw 26% o aelwydydd â ffôn symudol yn unig ar ddiwedd 2004
o'i gymharu â'r Iseldiroedd sydd â rhyw 12% o aelwydydd â ffôn
symudol yn unig a Chymru lle ceir 13% o aelwydydd â ffôn symudol yn
unig.
YnIn 2005, mae marchnad band eang Gwlad Belg yn aeddfed o'i
chymharu â'r mwyafrif o farchnadoedd gorllewin Ewrop. Er
hynny, mae twf sy'n gostwng lefelau isel y cystadlu yn y
sector DSL , yn enwedig o ran LLU, a threiddiad
isel cyfrifiaduron personol yn creu rhwystrau sy'n atal
datblygu pellach, sef rhwystrau y bydd rhaid eu goresgyn os
yw Gwlad Belg am gadw ei safle fel un o'rprif
genhedloedd band eang yn Ewrop.
Cyfeiriadau
[1] OECD, The development of broadband access in rural and
remote areas, MayMai 2004
[2] IY Gronfa Ariannol Ryngwladolnternational Monetary Fund,
World Economic Outlook Database, AprilEbrill 2006
[3] Western Mail, Building better future? Not quite, 15th
JuneMehefin 2005
[4] European UnionYr Undeb Ewropeaidd, Connecting Europe at
High Speed: National Broadband Strategies, MayMai 2004
[5] BREAD, Second report on the multi-technological analysis
of the 'broadband for all' concept, focus on the listing of
multitechnological key issues and practical roadmaps on how to
tackle these issues, AugustAwst 2005
[6] European UnionYr Undeb Ewropeaidd, Connecting Europe at
High Speed: National Broadband Strategies, MayMai 2004
[7] European UnionYr Undeb Ewropeaidd, Connecting Europe at
High Speed: National Broadband Strategies, MayMai 2004
[9] European UnionYr Undeb Ewropeaidd, Connecting Europe at
High Speed: National Broadband Strategies, MayMai 2004
[11] YrInternational Telecommunications Undeb Telathrebu
Rhyngwladolion, World Telecommunications Indicators,
DecemberRhagfyr 2005
[12] Analysys Research, Country Reports: Belgium,
OctoberHydref 2005
[13] Content Village, eContent in Belgium, AugustAwst
2004
[14] Content Village, eContent in Belgium, AugustAwst
2004
[15] OECD, ICT database and Eurostat, Community Survey on ICT
usage in households and by individuals, MayMai 2005
[16] ISPA Belgium, 25th Market Study, SeptemberMedi 2005
[17] Analysys Research, Penetration of broadband technologies,
MayMai 2006
[18] OECD, OECD Broadband Statistics, DecemberRhagfyr 2005,
AprilEbrill 2006
[19] Point Topic, World Broadband Statistics:Q4 2005,
MarchMawrth 2006
[20] OECD, OECD Broadband Statistics, DecemberRhagfyr 2005,
AprilEbrill 2006
[21] Point Topic, World Broadband Statistics:Q4 2005,
MarchMawrth 2006
[22] OECD, ICT database and Eurostat, Community Survey on ICT
usage in enterprises, MayMai 2005
[23] Datganiad i'r wasg gan Belgacom Press Release, Now98% of
Belgium's population can be connected to ADSL, 15th January Ionawr
2003. Available atAr gael yn
www.belgacom.be
[24] Analysys Research, Penetration of broadband technologies,
MarchMawrth 2006
[25] Analysys Research, Country Reports: Belgium,
OctoberHydref 2005
[26] Analysys Research, Country Reports: Belgium,
OctoberHydref 2005
[28] Analysys Research, Country Reports: Belgium,
OctoberHydref 2005
[29] ECTA, Broadband Scorecard Q4 2005, MayMai 2006
[31] Datganiad i'r wasg gan Tiscali Press Release. Available
atAr gael yn
[32] Analysys Research, Country Reports: Belgium,
OctoberHydref 2005
[33] Analysys Research, Country Reports: Belgium,
OctoberHydref 2005
[35] Telenet, Annual Report 2005, MayMai 2006
[37] Analysys Research, Market shares, 2006
[39] Analysys Research, Breakdown of retail market share:
Europe, 2006
[40] Pyramid Research, Telenet's Unconventional Triple Play
Strategy Continues to Reap Rewards, MayMai 2006
[41] Digital TV Group, Belgacom launches IPTV service, 29th
JuneMehefin 2005. Available atAr gael yn [42] Telenet, Annual
Report 2005, MayMai 2006
[43] Analysys Research, Country Reports: Belgium,
OctoberHydref 2005
[44] Ofcom, The Communications Market: Nations and Regions
Research Report, AprilEbrill 2006
[45] Analysys Research, Country Reports: Belgium,
OctoberHydref 2005
[46] Analysys Research, Country Reports: Belgium,
OctoberHydref 2005
[47] Analysys Research, Broadband Pricing Study,
DecemberRhagfyr 2005
[48] Analysys Research, Broadband Pricing Study,
DecemberRhagfyr 2005
[49] Operator Gwefannau'r gweithredwyrwebsites
[50] Analysys Research, Country Reports: Belgium,
OctoberHydref 2005