Marchnad Band
Eang Yr Iseldiroedd 2005
Gwlad fach a gwastad iawn ei thir yw'r Iseldiroedd. O ystyried
ei maint, mae ganddi arfordir helaeth a rhwydwaith mawr o gamlesi.
Mae bron chwarter y wlad o dan lefel y môr. Ganddi hi y mae un o'r
poblogaethau dwysaf yn y byd, sef 16.3 miliwn o bobl mewn 7 miliwn
o gartrefi, a cheir ynddi 395 o drigolion am bob cilometr
sgwâr.
Ei GDP-y-pen, $37,326, oedd y degfed uchaf yn y byd yn 2004 yn
ôl y Gronfa Ariannol Ryngwladol. Mae hynny'n cymharu â $69,737 yn
Luxembourg, sef y GDP-y-pen uchaf yn y byd. Pedwerydd ar ddeg yw
GDP-y-pen Prydain o $35,548.
Llaciwyd y rheolau ar y sector telathrebu ganol 1997 ac fe
reoleiddir gan yr Onafhankelijke Post en Telecommunicatie
Autoriteit (OPTA), yr Awdurdod Post a Thelathrebu Annibynnol, corff
sydd wedi arddel ymagwedd ryddfrydig at reoleiddio'r sector. Er
hynny, mae OPTA wedi dweud y bydd yn ymarfer ei awdurdod yn fwy
pendant nag yn y gorffennol drwy osod dirwyon neu gosbau
cyfreithiol er mwyn gorfodi cwmnïau i gyflawni eu
rhwymedigaethau.
Mae gan Lywodraeth yr Iseldiroedd uchelgais fawr iawn ar gyfer
ei marchnad band-eang. Ei nod, fel y dywedodd hi yn ei Phapur ar y
Band Eang yn 2004, yw bod ar y brig am y band eang erbyn 2010, yn
Ewrop ac yn y byd. I gyrraedd y targed hwnnw, mae hi wedi rhoi llu
o weithredoedd, prosiectau a mentrau polisi ar waith. Mae llawer
o'r mentrau hynny'n cynnwys ariannu uniongyrchol gan Lywodraeth yr
Iseldiroedd, gan gynnwys prosiect Kenniswijk – y darparodd
Llywodraeth yr Iseldiroedd 100 miliwn o guilders (EUR45 miliwn)
iddo – i brofi cynhyrchion a gwasanaethau newydd mewn amgylchedd
arbrofol yn rhanbarth Eindhoven.
Nid yw'r prif weithredydd telathrebu, KPN, wedi'i
breifateiddio'n llwyr. Mae gan Wladwriaeth yr Iseldiroedd gyfran o
7.8%, o hyd, o'r cwmni daliannol sydd wedi'i restru, sef Royal KPN
NV.
Gan fod i'r Iseldiroedd, yn ddaearyddol, safle strategol ar
gyrion tir mawr Ewrop, mae'n bwynt glanio i geblau tanfor o Ogledd
America. Canlyniad hynny yw bod isadeiledd telathrebu mwy na'r
disgwyl wedi'i adeiladu ar gyfer gwlad o'i maint hi a bod
Cyfnewidfa Rhyngrwyd Amsterdam (AMS-IX) wedi datblygu'n un o'r prif
gyfnewidfeydd yn Ewrop. Yn ôl yr Undeb Telathrebu Rhyngwladol (yr
ITU), gan yr Iseldiroedd y mae'r lefel ail uchaf yn y byd yn 2004 o
led band rhyngwladol am bob pen o'r boblogaeth, sef dros 20Mbps.
Denmarc oedd â'r lefel uchaf, sef rhyw 35Mbps y pen, a phedwerydd
oedd Prydain o ran lled band, sef rhyw 13Mbps y pen.
Mae amryw o weithredyddion rhyngwladol y daw eu prif wasanaeth
drwy AMS-IX wedi targedu marchnad yr Iseldiroedd. O ran y farchnad
ddomestig, mae'r gweithredyddion hynny wedi canolbwyntio'n bennaf
ar y sector busnes.
O ran defnyddio TGCh, mae'r ffigurau diweddaraf sydd ar gael
oddi wrth yr OECD yn dangos bod gan 75% o gartrefi yn yr
Iseldiroedd gyfrifiadur personol yn 2004 a bod gan 71% o'r holl
gartrefi fynediad i'r rhyngrwyd. Dyma'r gyfradd ail uchaf yn Ewrop
o dreiddio gan gyfrifiaduron personol gan mai yng Ngwlad yr Iâ y
mae'r gyfradd uchaf, sef 86% o'r holl gartrefi a'r lefel uchaf yn
Ewrop o dreiddiad y rhyngrwyd i gartrefi. Ystyrir bod treiddiad
uchel a defnyddio TGCh yn rhagflaenu'r galw am fand eang. (ffigur
1)

Ffigur 1 – Treiddiad cyfrifiaduron
personol preswyl a'r rhyngrwyd i gartrefi, OECD Science, Technology
and Industry: Scoreboard 2005
Ar ddiwedd Mehefin 2005, cyfrifwyd bod rhyw 3.6 miliwn o
linellau band-eang yn yr Iseldiroedd, sef twf o fwy na 560,000 o
gysylltiadau, neu 18.1%, ers diwedd 2004. (ffigur 2)
Ffigur 2 – Cyfanswm y tanysgrifio i
fand eang fesul gwlad, OECD, Mehefin 2005
Mae twf y farchnad yn cymharu'n ffafriol â'r twf o 15.2%
ledled yr OECD ac o 16% ledled y byd yn ystod yr un cyfnod, ac yn
awgrymu bod gan yr Iseldiroedd beth ffordd i fynd eto cyn cyrraedd
pob rhan o'r farchnad. (ffigur 6)
Ffigur 3 – Cyfanswm treiddiad band
eang fesul poblogaeth, DSL Forum a Point Topic, Mehefin
2005
Yn ôl ffigurau Point Topic, yr Iseldiroedd yw'r genedl â'r
treiddiad band-eang uchaf yn Ewrop am bob pen o'r boblogaeth, a hi
oedd yn y trydydd safle yn y byd ym mis Mehefin 2005, sef 22 o
gysylltiadau band-eang am bob 100 o drigolion. Gan Dde Korea y
mae'r lefel uchaf o dreiddiad band eang yn y byd, sef 26% o'r
boblogaeth, a Hong Kong oedd yr ail uchaf â 23 o gysylltiadau am
bob 100 o bobl. (ffigur 3)
Ffigur 4 – Treiddiad band eang
fesul poblogaeth, OECD Broadband Statistics, Mehefin
2005
O'i chymharu â gwledydd yr OECD, mae'r Iseldiroedd ymhell ar y
blaen i'r lefel gyfartalog o fand eang, sef 11.8% o'r boblogaeth.
(ffigur 4)
Ffigur 5 – Treiddiad band eang ar
sail nifer y cartrefi, World Broadband Statistics Q2 2005, Point
Topic, Mehefin 2005
O ran treiddiad band eang i gartrefi, yr oedd gan yr
Iseldiroedd lefel dreiddio o 50% ym mis Mehefin 2005. Er bod
hynny'n drawiadol, mae'n dal i fod gryn dipyn yn is na'r lefel yn
Ne Korea, a oedd â lefel dreiddio o 81% o gartrefi ar y pryd.
(ffigur 5)
Ffigur 6 – Twf band eang yn ystod
hanner cyntaf 2005 a threiddiad band eang fesul poblogaeth, OECD
Broadband Statistics, Mehefin 2005
O ran y farchnad fusnes, mae rhyw 690,000 o fusnesau yn yr
Iseldiroedd, a mentrau bach a chanolig eu maint yw rhyw 99%
ohonynt. Mae'r ffigurau diweddaraf yn 2004 yn dangos bod mynediad
i'r rhyngrwyd gan 89% o'r holl fentrau a oedd â 10 a rhagor o
weithwyr amser-llawn. Mae'r ffigurau hefyd yn dangos bod 54% o'r
holl fentrau a oedd â 10 a rhagor o weithwyr amser-llawn yn
defnyddio cysylltiad band-eang. Mae'r ffigurau hynny'n unol â'r
cyfartaledd yn yr OECD. (ffigur 7)
Ffigur 7 – Treiddiad y rhyngrwyd a
band eang i fusnesau, OECD Science, Technology and Industry:
Scoreboard 2005
Mae'r asiantaeth ymchwil Telecompaperyn rhagweld y bydd
treiddiad band eang i gartrefi yn yr Iseldiroedd wedi cyrraedd 62%
erbyn diwedd 2005. Mae hynny'n cymharu'n ffafriol â rhagolwg
Datamonitor y bydd gan 60% o gartrefi yn Ewrop gysylltiad band-eang
erbyn canol 2008.
Yn yr un modd, mae'r gyfran uchel o gartrefi â band eang yn
gosod yr Iseldiroedd mewn safle cryf o ran cyrraedd y targedau a
bennwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd yn ei strategaeth i2010. Mae'r
targedau hynny'n cynnwys y gofyniad i 50% o'r holl gartrefi â
chysylltiad band-eang o 10Mbps a rhagor erbyn 2010.
O ran isadeiledd band-eang, mae'r Iseldiroedd mewn sefyllfa
unigryw yn Ewrop am fod dwy dechnoleg wahanol ar gael bron
ymhobman. Mae'r prif weithredydd, KPN, yn honni i fand eang DSL fod
ar gael i 99% o'r holl gartrefi erbyn Rhagfyr 2004. Yn yr un modd,
gall bron 98% o'r holl gartrefi yn yr Iseldiroedd gael mynediad i'r
isadeiledd teledu cebl. (ffigur 8)
Ffigur 8 – Amcangyfrif o
gyrhaeddiad band eang, Analysys Consulting Cyfyngedig, Medi
2005
Y dechnoleg drechaf ym Mehefin 2005 oedd band eang DSL am fod
DSL yn cyfrif am ryw 60% o gyfanswm y cysylltiadau band-eang, a
chebl yn cyfrif am 39%. Sicrhaodd DSL dwf o 17% yn ystod hanner
cyntaf 2005, o'i gymharu â'r twf o 20% a sicrhawyd gan gebl.
(ffigur 9)
Ffigur 9 – Marchnadoedd band-eang
Gorllewin Ewrop fesul math o dechnoleg, Analysys Consulting
Cyfyngedig, Mehefin 2005
Mae'r galw ledled y sector mân-werthu preswyl wedi'i ysgogi
gan bolisi KPN o gynnig amryw byd o wasanaethau ac amrywiaeth o
brisiau a lledau band sy'n apelio at ddefnyddwyr bach, canolig a
mawr. Mae KPN wedi defnyddio'i lu is-gwmnïau a brandiau i helpu i
wahaniaethu rhwng y cynhyrchion hynny.
Yn y cyfamser, mae'r galw o du'r farchnad wedi peri i KPN
ystyried cyflwyno DSL noeth i'r farchnad er mwyn i'r defnyddwyr
allu cadw eu tanysgrifiad band-eang DSL heb y llinell ffôn PSTN.
Bydd y cyfle hwn i gydgyfeirio'r sefydlog a'r symudol yn cynnig
cyfle pellach i weithredyddion wahaniaethu eu gwasanaethau mewn
marchnad fwyfwy cystadleuol.
Mae'r galw mawr am wasanaethau band-eang wedi esgor ar
gystadlu mawr yn y farchnad band-eang. Oherwydd yr amgylchedd hynod
gystadleuol, cyfran fân-werthu fach sydd gan KPN. CyfrifoddAnalysys
Research mai llinellau DSL KPN oedd 43.3% o'r holl linellau
cyfanwerthu ym Mehefin 2005, ac mai ei gyfran o 31.9% o'r farchnad
fân-werthu yw'r ail isaf ymhlith prif weithredyddion yng Ngorllewin
Ewrop. Gan Brydain yr oedd y gyfran isaf o fân-werthu gan brif
weithredydd am nad oedd BT Retail yn cyfrif ond am 24% o gyfanswm y
farchnad band-eang. (ffigur 11)
Ffigur 10 – Llinellau DSL
dadfwndeledig, fel canran o gyfanswm llinellau DSL, Analysys
Consulting Cyfyngedig, Mehefin 2005
Eto i gyd, mae'r ffaith nad yw KPN yn cynnig gwasanaeth didlif
yn golygu nad oes fawr o ailwerthu ar ei linellau cyfanwerthu. Er
i'r rheoleiddiwr, yr OPTA, geisio gosod rhwymedigaeth ar KPN i
ddarparu mynediad i ddidlif, gwrthod yr ymdrechion hynny y mae'r
llysoedd wedi'i wneud hyd yn hyn.
O ganlyniad, mae'r prif fygythiad i gyfran KPN o'r farchnad
wedi dod o du cystadleuaeth sy'n seiliedig ar yr isadeiledd. Mae
cystadleuwyr wedi adeiladu eu hisadeiledd eu hunain i greu
gwahaniaethau rhwng cynhyrchion ac i gystadlu benben â KPN. Mae hyn
wedi arwain at lawer o Ddadfwndelu Dolenni Lleol (LLU) ers i LLU
gael ei gyflwyno i'r farchnad DSL yn 2000. Yn ogystal, o'i gymharu
â'r marchnadoedd eraill yng Ngorllewin Ewrop, mae'r buddsoddi yn yr
isadeiledd cebl wedi arwain at sicrhau cyfran gymharol uchel o
gyfanswm y farchnad band-eang i gebl.
Yn 2001, dyfarnodd yr OPTA y gellid diffinio'r farchnad
band-eang fel marchnad a oedd ar wahân i'r band cul ac, o
ganlyniad, y gellid tybio bod gan weithredyddion cebl Gryn Rym yn y
Farchnad. Oherwydd y dyfarniad hwnnw, fe basiodd y llywodraeth
reoliad – fel rhan o Ddeddf Telathrebu 2004 – a fynnai fod
gweithredyddion cebl yn agor eu rhwydweithiau i LLU.
Mae KPN wedi cyhoeddi cynlluniau i gynnig ei wasanaethau
teledu digidol dros rwydweithiau cebl ei gystadleuwyr. Ond er i'r
rheoleiddiwr ddyfarnu o'i blaid, nid yw KPN eto wedi cytuno â'r
gweithredyddion cebl ar y telerau mynediad.
Eto i gyd, mae'r Iseldiroedd yn dal i fod yn un o'r
marchnadoedd gwlad LLU bywiocaf yn Ewrop. Mae'r prif chwaraewyr yn
cynnwys Versatel, bbned, Tiscali a Wanadoo. Cyfrifodd Analysys
Research fod rhyw 580,000o ddolenni lleol wedi'u dadfwndelu ym
Mehefin 2004, sef 27% o'r farchnad DSL. Gan yr Iseldiroedd, felly,
yr oedd y gyfran bedwaredd uchaf o LLU o'r farchnad DSL yng
Ngorllewin Ewrop ar y pryd. (ffigur 10)
Ffigur 11 – Cyfrannau cyfanwerthu a
mân-werthu y prif weithredyddion yng Ngorllewin Ewrop, Analysys
Consulting Cyfyngedig, Mehefin 2005
Llinellau sydd wedi'u rhannu yw'r mwyafrif o'r llinellau sydd
wedi'u dadfwndelu, a chyflenwir mynediad i fand eang gan y
gweithredydd LLU tra bo'r gwasanaethau ffôn yn dal ym meddiant KPN.
Yn ôl yr OPTA, dim ond 12% o'r defnyddwyr terfynol sydd â llinellau
sydd wedi'u dadfwndelu'n llawn ac yn cael mynediad i fand eang a'r
gwasanaeth ffôn gan y gweithredydd LLU – a chwsmeriaid busnes yw'r
rheiny bron i gyd. Mae darparu mwy a mwy o wasanaethau ffôn a
chyfryngau eraill dros IP yn debyg o gynyddu'r galw am linellau
sydd wedi'u dadfwndelu'n llwyr.
Mae'r mwyaf ymosodol o weithredyddion LLU, Versatel, wedi rhoi
rhwydwaith ADSL2+ ar waith cyn lansio'i wasanaeth chwarae-triphlyg
ym mis Awst 2005. Mae Versatel hefyd wedi prynu'r hawliau
teledu-talu i gynghrair pêl-droed yr Iseldiroedd er mwyn sicrhau
mantais, o ran cynnwys, dros ei gystadleuwyr.
At hynny, mae KPN hefyd yn rhoi rhwydwaith ADSL2+ ar waith cyn
mynd ati i lansio gwasanaeth IPTV tua diwedd 2005. Mae ef wedi bod
yn gwthio'i wasanaeth chwarae-triphlyg ei hun yn egnïol er mwyn
ymateb i'r bygythiad o du'r sector cebl.
Eto i gyd, er gwaethaf helaethrwydd isadeiledd teledu cebl,
mae'r gweithredyddion wedi bod yn araf wrth uwchraddio'u
rhwydweithiau i ddarparu gwasanaethau telathrebu eraill. Ond erbyn
hyn mae'r gweithredyddion cebl yn ymateb ac yn uwchraddio'u
rhwydweithiau i gystadlu â'r cyflymderau mynediad uchel a ddarperir
gan ADSL2+. Er enghraifft, fe lansiodd UPC wasanaethau 20Mbps drwy
gebl a DSL yn Ebrill 2005 ac mae'n rhagbrofi gwasanaethau 50Mbps;
dechreuodd Multikabel ragbrofi gwasanaethau 25Mbps ym mis
Gorffennaf 2005.
Er bod yr Iseldiroedd ar ei hôl hi o'i chymharu â marchnadoedd
mwy datblygedig fel y rhai yn Sweden a'r Eidal, mae hi wedi dechrau
rhoi rhai rhwydweithiau FTTx ar waith, ac mae rhai awdurdodau
trefol a chorfforaethau tai wrthi'n ariannu eu rhwydweithiau ffibr
eu hunain. Mae'r rhwydweithiau hynny'n cael eu hadeiladu'n bennaf
yn yr ardaloedd trefol ac yn cystadlu'n uniongyrchol â'r
rhwydweithiau cebl.
Mae'r cystadlu uniongyrchol â'r gweithredyddion cebl gan y
rhwydweithiau ffibr trefol, a'r cystadlu mawr o du DSL, yn rhoi
gweithredyddion cebl dan bwysau ariannol. I ymladd hynny, mae UPC
wedi adeiladu ei rwydwaith FTTHei hun yn Almere a hefyd wedi
buddsoddi mewn prynu cynnwys drwy bwrcasu sianeli teledu oddi wrth
Canal+. Gallai gweithredyddion cebl llai eu maint hefyd fod yn
fwyfwy agored i gael eu prynu wrth i'r sector cebl gyfnerthu.
O ran prisiau, cost pecynnau band-eang 'cenhedlaeth-gyntaf'
sylfaenol yw rhyw EUR20-30 y mis yn yr Iseldiroedd, cost sy'n is
nag mewn llawer marchnad arall yng Ngorllewin Ewrop. Cost
gwasanaethau tebyg ym Mhrydain a Ffrainc yw rhyw EUR25-30 y mis, ac
yn Nenmarc, gwlad sydd â lefelau treiddio a GDP-y-pen tebyg i'r hyn
a geir yn yr Iseldiroedd, cost gwasanaeth tebyg yw rhyw EUR45-55 y
mis. Mae hynny'n dangos mai canlyniad y galw mawr, a'r cystadlu
brwd sydd wedi deillio o hynny, yw prisiau mân-werthu isel am
wasanaethau band-eang, yn enwedig o ystyried pa mor uchel yw
GDP-y-pen yr Iseldiroedd.
Ar y llaw arall, mae gwasanaethau band-eang 'ail-genhedlaeth'
â chyflymderau o ryw 8-10Mbps yn costio rhyw EUR60-80 y mis ac
felly rywfaint yn ddrutach nag ym marchnadoedd eraill Gorllewin
Ewrop. Cost gwasanaethau tebyg yn Ffrainc a Phrydain yw rhyw
EUR30-40 y mis. Er hynny, mae'r gwasanaethau hyn gryn dipyn yn
rhatach yn yr Iseldiroedd nag yn Nenmarc gan mai cost gwasanaeth
8Mbps yno yw rhyw EUR135 y mis. Rheswm posibl dros gost gymharol
uchel y gwasanaethau hyn yw bod y gweithredyddion yn ceisio cynyddu
nifer eu tanysgrifwyr chwarae-triphlyg drwy gadw cynhyrchion unigol
ar bris sy'n golygu bod modd arbed cryn dipyn drwy eu prynu mewn
'bwndel'. Er nad yw llawer marchnad yng Ngorllewin Ewrop wedi gweld
cyflwyno cynhyrchion chwarae-triphlyg hyd yn hyn, mae'r cystadlu yn
y sector hwn yn yr Iseldiroedd eisoes yn frwd.
I gloi, mae tir gwastad yr Iseldiroedd wedi'i gwneud hi'n
gymharol hawdd sicrhau bod isadeiledd band-eang o fewn cyrraedd i'r
mwyafrif o'r boblogaeth, ac mae'r ceblau tanfor sy'n dod i'r wyneb
yno wedi golygu bod llawer iawn o led band rhyngwladol ar gael.
Mae'r ffactorau ffisegol hynny, ynghyd â'r GDP-y-pen uchel a
lefelau treiddio uchel o ran TGCh wedi helpu i greu galw mawr am
fand eang ac wedi ysgogi llawer o ddefnyddio arno.
At hynny, mae'r galw mawr wedi annog amryw o weithredyddion i
fentro i'r farchnad, gan greu marchnad band-eang gystadleuol sydd â
phrisiau mân-werthu sy'n is na'r cyffredin a threiddiad band-eang
sy'n uwch na'r cyffredin (o ran maint y boblogaeth a nifer y
cartrefi).
Eto i gyd, nid yw'r farchnad band-eang eto wedi cyrraedd
lefelau tele-ddwysedd (cyfrifodd Analysys Research fod 79.7 o
linellau am bob 100 o bobl yn yr Iseldiroedd yn 2004). Y disgwyl
felly yw i'r farchnad band-eang ddal i dyfu yn sgil cynyddu'r
defnyddio ar gymwysiadau sy'n seiliedig ar IP a chyflwyno cynigion
gwasanaeth chwarae-triphlyg.
Yn 2005, mae gan yr Iseldiroedd farchnad band-eang gystadleuol
iawn lle mae galw mawr am fand eang a lle mae amrywiaeth o
gyflenwyr yn cynnig band eang ar draws dewis o DSL, LLU, cebl a
ffibr.
Allweddeiriau
Chwilio
Band eang
Yr Iseldiroedd
FTTx
LLU
Adroddiad ar y wlad
Marchnad
Ewrop
Cebl
Chwarae-triphlyg
Lled band rhyngwladol
Graffiau
Ffigur 1 – Treiddiad cyfrifiaduron personol
preswyl a'r rhyngrwyd i gartrefi, OECD Science, Technology and
Industry: Scoreboard 2005
Ffigur 2 – Cyfanswm y tanysgrifio i fand eang
fesul gwlad, OECD, Mehefin 2005
Ffigur 3 – Cyfanswm treiddiad band eang fesul
poblogaeth, DSL Forum a Point Topic, Mehefin
2005
Ffigur 4 – Treiddiad band eang fesul poblogaeth,
OECD Broadband Statistics, Mehefin 2005
Ffigur 5 – Treiddiad band eang ar sail nifer y
cartrefi, World Broadband Statistics Q2 2005, Point Topic, Mehefin
2005
Ffigur 6 – Twf band eang yn ystod hanner cyntaf
2005 a threiddiad band eang fesul poblogaeth, OECD Broadband
Statistics, Mehefin 2005
Ffigur 7 – Treiddiad y rhyngrwyd a band eang i
fusnesau, OECD Science, Technology and Industry: Scoreboard
2005
Ffigur 8 – Amcangyfrif o gyrhaeddiad band eang,
Analysys Consulting Cyfyngedig, Medi 2005
Ffigur 9 – Marchnadoedd band-eang Gorllewin Ewrop
fesul math o dechnoleg, Analysys Consulting Cyfyngedig, Mehefin
2005
Ffigur 10 – Llinellau DSL dadfwndeledig, fel
canran o gyfanswm llinellau DSL, Analysys Consulting Cyfyngedig,
Mehefin 2005
Ffigur 11 – Cyfrannau cyfanwerthu a mân-werthu y
prif weithredyddion yng Ngorllewin Ewrop, Analysys Consulting
Cyfyngedig, Mehefin 2005