Amodau a Thelerau
Datganiad Preifatrwydd
Mae gwybodaeth sy'n cael ei darparu a'i chadw gan, neu ar ran,
y Cynulliad Cenedlaethol yn destun yr holl gyfreithiau sy'n
llywodraethu mynediad i wybodaeth, er enghraifft: Deddf Gwarchod
Data 1998, Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, a Chod Ymarfer y
Cynulliad Cenedlaethol ar Fynediad Cyhoeddus i Wybodaeth 3ydd
argraffiad (2004).
Nid ydym yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth am ddefnyddwyr
ac ni fyddwn yn casglu unrhyw wybodaeth amdanoch chi ac eithrio'r
hyn sy'n angenrheidiol ar gyfer gweinyddiaeth system gweinyddwr y
we ac unrhyw wybodaeth a gofnodwyd trwy ffurflenni ar y
wefan.
Nid yw dolenni i safleoedd eraill ar y safle hwn yn cael eu
cwmpasu gan y datganiad hwn.
Cynllun Broceriaeth Band Eang
Er mwyn sicrhau bod y gwybodaeth a ddarparwyd ganddoch mor
gywir a sy'n bosib fe wnawn ni ddanfon e-bost atoch i gadarnhau y
manylion a mewnbynnwyd. Fe fydd yr e-bost yn cael ei ddanfon i'r
cyfeiriad a ddarparwyd yn fuan ar ôl i chi gwbwlhau'r ffurflen a fe
fydd yn cynnwys dolen i wireddu'r cofrestriad.
Ni fydd agor yr e-bost a clicio'r ddolen yn bwriadu y byddwch
yn derbyn negesau annymunol wrthom. Fe fyddwch yn derbyn
hysbysiadau wrthom os wnaethoch nodi eich bod yn eu dymuno yn
unig.
Os na fyddwch yn derbyn ein e-bost, gwiriwch:
- Na fod ganddoch chi, na'r rhwydwaith yr ydych ynghlwm iddo,
ffilter sy'n atal negeseuon 'spam' sydd wedi cam adnabod ein neges
ni fel 'spam'.
- Bod y cyfrif e-bost yr ydych yn edrych arno yr un a rhoddwyd
tra'n cyflenwi'r ffurflen.
Os nad ydych wedi derbyn yr e-bost, neu os oes ganddoch unrhyw
ymholiadau arall sy'n ymwneud â'r Broadband Brokerage Scheme,
defnyddiwch y manylion cyswllt â rhoddwyd.
Defnyddio ein gwefan
Mae Arsyllfa Band Eang Cymru yn cael ei chynnal at eich
defnydd a'ch gwylio personol chi. Trwy ymweld a defnyddio'r
wefan hon rydych yn derbyn yr Amodau a'r Telerau hyn a ddaw i rym
o'r dyddiad defnyddio cyntaf.
Cysylltu â ni trwy gyswllt rhyngrwyd
Nid oes angen gofyn caniatâd i ymweld yn uniongyrchol â
thudalennau ar y wefan hon. Nid ydym yn gwrthwynebu i chi
fynd yn uniongyrchol at wybodaeth sydd ar ein gwefan. Fodd
bynnag, nid ydym yn caniatáu i chi lwytho ein tudalennau i fframiau
ar eich gwefan chi. Mae'n rhaid llwytho tudalennau Arsyllfa
Band Eang Cymru yn ffenestr gyfan y defnyddiwr.
Cysylltiadau rhyngrwyd o Arsyllfa Band Eang Cymru
Nid yw Arsyllfa Band Eang Cymru yn gyfrifol am gynnwys neu
ddibynadwyedd y gwefannau cysylltiedig ac nid yw o reidrwydd yn
cytuno â'r safbwyntiau a fynegwyd arnynt. Ni ddylid ystyried
rhestr o wefannau fel ardystiad o unrhyw fath. Ni allwn
warantu bod y cysylltiadau hyn yn gweithio bob amser ac nid ydym yn
gallu rheoli argaeledd y tudalennau cysylltiedig.
Amddiffyn rhag Firws
Rydym yn gwneud pob ymdrech i wirio a phrofi deunydd ym mhob
cam o'r broses gynhyrchu. Mae bob amser yn ddoeth i chi redeg
rhaglen gwrth-firws ar unrhyw ddeunydd sy'n cael ei ddadlwytho o'r
Rhyngrwyd. Ni allwn fod yn gyfrifol am unrhyw golled,
amhariad neu ddifrod i'ch data neu'ch system gyfrifiadurol a allai
ddigwydd wrth ddefnyddio deunydd sy'n deillio o'r wefan hon.
Ymwadiad
Caiff gwefan Arsyllfa Band Eang Cymru a deunydd sy'n ymwneud â
gwybodaeth, cynnyrch a gwasanaethau'r Llywodraeth (neu wybodaeth,
cynnyrch a gwasanaethau trydydd parti) ei ddarparu 'fel y mae', heb
unrhyw gynrychiolaeth na chefnogaeth a heb sicrwydd o unrhyw fath,
un ai wedi ei fynegi neu ei awgrymu, sy'n cynnwys ond heb ei
gyfyngu i sicrwydd awgrymedig o ansawdd derbyniol, addasrwydd at
ddiben arbennig, nad yw'n drosedd, cydnawsedd, diogelwch a
chywirdeb.
Nid ydym yn sicrhau bod swyddogaethau'r deunydd ar y safle hwn
yn ddi-dor neu'n rhydd o wallau ac y bydd diffygion yn cael eu
cywiro, neu fod y safle hwn neu'r gweinyddwr sy'n ei ddarparu yn
rhydd o firysau neu'n cynrychioli swyddogaethau, cywirdeb a
dibynadwyedd llawn y deunydd. Ni fyddwn, dan unrhyw amgylchiadau,
yn atebol am unrhyw golled neu ddifrod gan gynnwys, heb gyfyngiad,
colled neu ddifrod uniongyrchol neu anuniongyrchol neu unrhyw
golled neu ddifrod o ganlyniad i ddefnyddio data neu elw sy'n
deillio o neu mewn cysylltiad â defnyddio gwefan Arsyllfa Band Eang
Cymru.
Bydd yr Amodau a Thelerau hyn yn cael eu llywodraethu a'u
dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd unrhyw
anghydfod a fydd yn codi dan yr Amodau a Thelerau hyn yn destun
awdurdodaeth lwyr llysoedd Cymru a Lloegr.